actor a aned yn Newark yn 1954 From Wikipedia, the free encyclopedia
Actor a cynhyrchydd ffilm Americanaidd oedd Raymond Allen Liotta (ganwyd Raymond Julian Vicimarli, 18 Rhagfyr 1954 - 26 Mai 2022)[1][2] yn
Ray Liotta | |
---|---|
Ganwyd | Raymond Allen Liotta 18 Rhagfyr 1954 Newark, New Jersey |
Bu farw | 26 Mai 2022 o methiant anadlu, edema ysgyfeiniol,, methiant y galon Gweriniaeth Dominica, Santo Domingo |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, cynhyrchydd ffilm, actor ffilm |
Taldra | 1.8 metr |
Pwysau | 86 cilogram |
Priod | Michelle Grace |
Partner | Catherine Hickland |
Plant | Karsen Liotta |
Gwobr/au | Primetime Emmy Award for Outstanding Guest Actor in a Drama Series |
Roedd Liotta yn fwyaf adnabyddus am ei bortread o Henry Hill yn y ddrama drosedd Goodfellas (1990); mae roliau nodedig eraill yn cynnwys Ray Sinclair yn ffilm Jonathan Demme Something Wild (1986) a dderbyniodd enwebiad iddo am wobr Golden Globe. Bu'n portreadu Shoeless Joe Jackson yn y ffilm Field of Dreams (1989), yr heddwas Pete Davis yn Unlawful Entry (1992), yr heddwas Gary Figgis yn Cop Land (1997), Paul Krendler yn Hannibal (2001), Fred Jung yn Blow (2001), Tommy Vercetti yn y gêm fideo Grand Theft Auto: Vice City (2002), Prif swyddog heddlu Gus Monroe yn John C (2002), Samuel Rhodes yn Identity (2003), Markie Trattman yn Killing Them Softly (2012) a Peter Deluca yn The Place Beyond the Pines (2012).
Bu hefyd yn serennu fel y Lieutenant Matt Wozniak yn y ddrama deledu Shades of Blue (2016-2018)
Ganwyd Liotta yn Newark, New Jersey. Cafodd ei fabwysiadu pan oedd yn chwe mis oed gan Mary Liotta, clerc,[3] ac Alfred Liotta,[4][5] perchennog siop trwsio ceir, cyfarwyddwr personél, a llywydd lleol clwb y Democrataid .[6][7] Mae ganddo chwaer, Linda Liotta, sydd hefyd wedi cael ei mabwysiadu.
Mae Liotta wedi dweud ei fod yn gwybod ers ei fod yn blentyn ifanc ei fod wedi ei fabwysiadu.[8] Llwyddodd i gael hyd i'w mam fiolegol yn y 2000au. Mae ganddo un hanner brawd, pump o hanner chwiorydd, ac yn chwaer lawn.[9]
Mynychodd Ysgol Uwchradd Union[10] New Jersey lle cafodd ei fagu.
Graddiodd Liotta o Brifysgol Miami, lle derbyniodd radd yn y celfyddydau cain ym 1978.[11]
Ar ôl gadael y coleg, symudodd Liotta i Ddinas Efrog Newydd, lle bu'n gweithio tu ôl i'r bar yn theatrau Shubert. Llwyddodd i gael lle ar lyfrau asiant actio o fewn chwe mis.
Un o rolau cynharaf Liotta oedd chwarae ran Joey Perrini yn yr opera sebon Another World. Ymddangosodd yn y sioe rhwng 1978 a 1981. Rhoddodd gorau i'r rôl fel y gallai roi cynnig ar y diwydiant ffilm, a symudodd i Los Angeles. Ei ffilm gyntaf oedd The Lonely Lady, lle roedd Pia Zadora yn ymosod yn rhywiol arno gyda phibell gardd yn y ffilm cwlt clasurol. Ei ran actio fawr gyntaf oedd yn y ffilm Something Wild (1986),[12] a enillodd iddo ei enwebiad cyntaf am Golden Globe .[13] . Ym 1989, bu'n gyd serennu gyda Kevin Costner yn y ffilm ffantasi / drama, Field of Dreams. Roedd Liotta yn chware ran Shoeless Joe Jackson, ysbryd y diweddar chwaraewr pêl fas enwog
Ym 1990, chwaraeodd Liotta y mobster Henry Hill yn ffilm Martin Scorsese, Goodfella.
Ym 1992, ynghyd â Kurt Russell a Madeleine Stowe, cafodd ei gastio yn y ffilm Unlawful Entry fel heddwas seicopathig. Roedd ganddo rôl flaenllaw hefyd yn y ffilm gwyddonias No Escape. Enillodd Liotta canmoliaeth am ei gyfraniad i'r ffilm Land Cop lle fu'n cyd actio â Sylvester Stallone, Robert De Niro a Harvey Keitel.
Yn ychwanegol at ei rolau ffilm, bu Liotta yn portreadu'r canwr Frank Sinatra ym 1998 yn y ffilm teledu The Rat Pack (gan dderbyn enwebiad am wobr Screen Actors Guild). Ef oedd llais y cymeriad Tommy Vercetti, yn y gêm fideo Grand Theft Auto: Vice City. Bu'n ymddangos yn y ddrama deledu ER yn 2004, yn chwarae Charlie Metcalf yn y bennod "Time of Death" ennill Liotta gwobr am y rôl Emmy fel "Actor Gwadd Rhagorol Mewn Cyfres Ddrama". Yn 2006 bu Liotta yn serennu yng nghyfres teledu cwmni CBS Smith. Yn 2012 bu yn ymddangos fel ei hun mewn rôl llais lleisiol mewn pennod o'r gyfres gomedi Phineas & amp; Ferb ar sianel deledu Disney.[14]
Yn 2001 chwaraeodd Liotta ran tad y deliwr cyffuriau George Jung yn ffilm Johnny Depp Blow. Y flwyddyn ganlynol, ymddangosodd fel y Dirprwy Ditectif Henry Derw yn ffilm Joe Carnahan - Narc, rôl a arweiniodd at enwebiad am wobr Independent Spirit Award ac enwebiad am wobr gan Gymdeithas Beirniaid Ffilm Phoenix ar gyfer Actor Cefnogol Gwrywaidd Gorau.
Yn 2003 bu'n cyd actio â John Cusack ac Alfred Molina yn ffilm arswydias James Mangold Identity. Mae ef hefyd wedi lleisio rhaglenni dogfen megis Inside the Mafia ar gyfer y sianel National Geographic yn 2005. Ymddangosodd yn Smokin' Aces yn portreadu asiant FBI o'r enw Donald Carruthers.
Ymddangos gyda John Travolta yn y ffilm Wild Hogs, ymddangosodd yn Battle in Seattle fel maer y ddinas, ac yn Hero Wanted fel ditectif ochr yn ochr â Cuba Gooding Jr. Mae hefyd wedi ymddangos yn Crossing Over, yn cyd-serennu â Harrison Ford. Bu'n chwarae'r Ditectif Harrison yn ffilm comedi 2009 Jody Hill Observe and Report fel heddwas a phrif elyn cymeriad Seth Rogen. Yn 2011, roedd yn serennu yn The Son of No One gyda Channing Tatum ac Al Pacino.
Yn 2004, gwnaeth Liotta ei ymddangosiad Broadway cyntaf gyferbyn Frank Langella[15] yn nrama Stephen Belber, Match.[16][17]
Yn y 2010au bu Liotta yn actio yn Date Night, gyda Steve Carell, yn Charlie St. Cloud gyda Zac Efron, a'r dramau Snowmen, a The River Sorrow, lle fu'n chware rôl ditectif ar y cyd a Christian Slater a Ving Rhames. Bu'n cyd-weithio gyda Brad Pitt a James Gandolfini yn ffilm 2012 Andrew Dominik Killing Them Softly[18] ac yn ffilm 2013 Ariel Vromen The Iceman gan chware ran Roy DeMeo.[19] Bu'n chware rhan fach yn Muppets Most Wanted (2014).
Yn 2014, bu Liotta yn chware ran pregethwr yn y ffilm The Identical.[20] a bu'n chware rhan gefnogol yn y ddrama trosedd Revenge of the Green Dragons, dan gyfarwyddyd Martin Scorsese.
Bu Liotta yn serennu yn y gyfres Gorllewin Gwyllt Texas Rising ar y History Channel yn 2015. Mae hefyd a rhannau yn Kill the Messenger gyda Jeremy Renner, Stretch gyda Chris Pine a David Guetta.
Ers mis Mehefin 2015, mae Liotta wedi lleisio cyfres dogfen llefarydd y AMC The Making of the Mob.
Ar hyn o bryd mae'n serennu fel y Lieutenant Matt Wozniak yn y ddrama deledu Shades of Blue (2016-presennol)
Priododd Liotta yr actores Michelle Grace ym mis Chwefror 1997 ar ôl iddynt gyfarfod mewn gêm pêl fas proffesiynol yr oedd ei chyn gŵr (Mark Grace) yn chwarae ynddi. Roedd y cwpl yn cyd-serennu yn The Rat Pack, lle'r oedd Liotta yn chwarae rhan Frank Sinatra a Grace yn chware ran Judith Campbell Exner. Mae ganddynt ferch, Karsen Liotta, a anwyd ym 1998. Mae'r cwpl wedi ysgaru ers 2004.
Ar 19 Chwefror, 2007, arestiwyd Liotta o dan amheuaeth o yrru o dan ddylanwad alcohol ar ôl damwain yn ei gar Escalade Cadillac.
Bu farw yn ei gwsg yn 67 mlwydd oed. Ar y pryd ar ganol ffilmio Dangerous Waters yng Ngweriniaeth Dominica.<ref name="bbc-61600212">
Blwyddyn | Cynhyrchiad | Rhan |
2016-2018 | Shades of Blue (Cyfres deledu) | Matt Wozniak |
2018 | The Simpsons (Cyfres deledu) | Morty Szyslak |
2018 | Great News (Cyfres deledu) | Ray Liotta |
2017 | Young Sheldon (Cyfres deledu) | Vincent |
2017 | Unbreakable Kimmy Schmidt (Cyfres deledu) | Paulie Fiuccillo |
2016 | Broken Soldier | Mr. Ancilla |
2016 | The Last Dance | Jack Morehead |
2016 | Flock of Dudes | Uncle Reed |
2016 | Modern Family (Cyfres deledu) | Ray Liotta |
2015 | Timeshifters | Bartender |
2015 | Go with Me | Blackway |
2015 | Texas Rising (Cyfres deledu) | Lorca |
2015 | Ed Sheeran Feat. Rudimental: Bloodstream (Fideo) | |
2014 | The Money (Ffilm deledu) | George Archer |
2014 | 30 for 30 (Cyfres deledu ddogfen) | Adroddwr |
2014 | Kill the Messenger | John Cullen |
2014 | Revenge of the Green Dragons | Michael Bloom |
2014 | Sin City: A Dame to Kill For | Joey |
2014 | David Guetta Feat. Sam Martin: Lovers on the Sun (Fideo) | Troseddwr |
2014 | The Identical | Reece Wade |
2014 | Better Living Through Chemistry | Jack Roberts |
2014 | Muppets Most Wanted | Big Papa |
2013 | Suddenly | Tod Shaw |
2013 | Pawn | Man in the Suit |
2013 | Mob of the Dead (Gêm fideo) | Billy Handsome (llais) |
2013 | The Devil's in the Details | Dr. Robert Michaels |
2012 | Abominable Christmas (Ffilm deledu) | Abominable Dad (llais) |
2012 | NTSF:SD:SUV (Cyfres deledu) | Jason |
2012 | Dear Dracula (Fideo) | Count Dracula (llais) |
2012 | Bad Karma | Molloy |
2012 | Yellow | Afai |
2012 | The Place Beyond the Pines | Deluca |
2012 | The Iceman | Roy Demeo |
2012 | Breathless | Sheriff Cooley |
2012 | Killing Them Softly | Markie Trattman |
2012 | Breakout | Jim |
2011 | The League (Cyfres deledu) | Ruxin's Boss |
2011 | The Entitled | Richard Nader |
2011 | Field of Dreams 2: Lockout (byr) | Roger Goodell |
2011 | The River Murders | Jack Verdon |
2011 | Street Kings 2: Motor City (Fideo) | Marty Kingston |
2011 | All Things Fall Apart | Dr. Brintall |
2011 | The Details | Peter Mazzoni |
2011 | The Son of No One | Captain Marion Mathers |
2010 | The Death and Life of Charlie St. Cloud | Florio Ferrente |
2010 | Hannah Montana (Cyfres deledu) | Principal Luger |
2010 | Chasing 3000 | Adult Mickey |
2010 | Snowmen | Reggie Kirkfield |
2010 | Date Night | Joe Miletto (heb credyd) |
2010 | Crazy on the Outside | Gray |
2009 | Youth in Revolt | Lance Wescott |
2009 | La linea | Mark Shields |
2009 | Powder Blue | Jack Doheny |
2009 | Observe and Report | Detective Harrison |
2009 | Crossing Over | Cole Frankel |
2008 | SpongeBob SquarePants (Cyfres deledu) | Bubble Poppin Leader |
2008 | Hero Wanted | Detective Terry Subcott |
2007 | Bee Movie | Ray Liotta (llais) |
2007 | Battle in Seattle | Maior Jim Tobin |
2006-2007 | Smith (Cyfres deledu) | Bobby Stevens |
2007 | In the Name of the King: A Dungeon Siege Tale | Gallian |
2007 | Wild Hogs | Jack |
2006 | Smokin' Aces | Donald Carruthers |
2006 | Comeback Season | Walter Pearce |
2006 | Local Color | John Talia Sr. |
2006 | Even Money | Tom |
2005 | Slow Burn | Ford Cole |
2005 Revolver | Dorothy Macha | |
2004 | Control | Lee Ray Oliver |
2004 | ER (Cyfres deledu) | Charlie Metcalf |
2004 | The Last Shot | Jack Devine |
2003 | Identity | Rhodes |
2002 | Grand Theft Auto: Vice City (gêm fideo) | Tommy Vercetti (llais) |
2002 | Point of Origin (Ffilm deledu) | John Orr / Aaron Stiles |
2002 | John Q | Chief Gus Monroe |
2001-2002 | Just Shoot Me! (Cyfres deledu) | Ray Liotta |
2002 Narc | Henry Oak | |
2001 | Family Guy (Cyfres deledu) | Zack (llais) |
2001 | Blow | Fred Jung |
2001 | Heartbreakers | Dean Cumanno / Vinny Staggliano |
2001 | Hannibal | Paul Krendler |
2000 | A Rumour of Angels | Nathan Neubauer |
2000 | Pilgrim | Jack |
1999 | Forever Mine | Mark Brice |
1999 | Muppets from Space | Gate Guard |
1998 | The Rat Pack (Ffilm deledu) | Frank Sinatra |
1998 | Phoenix | Harry Collins |
1997 | Cop Land | Gary Figgis |
1997 | Turbulence | Ryan Weaver |
1996 | Unforgettable | David Krane |
1995 | Frasier (Cyfres deledu) | Bob |
1995 | Operation Dumbo Drop | Capt. T.C. Doyle |
1994 | Corrina, Corrina | Manny Singer |
1994 | No Escape | Capt. J.T. Robbins |
1992 | Unlawful Entry | Officer Pete Davis |
1992 | Article 99 | Dr. Richard Sturgess |
1991 | Women & Men 2: In Love There Are No Rules (Ffilm deledu) | Martin Meadows |
1990 | Goodfellas | Henry Hill |
1989 | Field of Dreams | Shoeless Joe Jackson |
1988 | Dominick and Eugene | Eugene Luciano |
1987 | Arena Brains (Short) | The Artist |
1986 | Something Wild | Ray Sinclair |
1985 | Our Family Honor (Cyfres deledu) | Ed Santini |
1984 | Mike Hammer (Cyfres deledu) | Tony Cable |
1983 | The Lonely Lady | Joe Heron |
1983 | Casablanca (Cyfres deledu) | Sacha |
1983 | St. Elsewhere (Cyfres deledu) | Murray |
1980-1981 | Another World (Cyfres deledu) | Joey Perrini |
1981 | Crazy Times (Ffilm deledu) | Johnny 'Wizard' Lazarra |
1980 | Hardhat and Legs (Ffilm deledu) | Family |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.