From Wikipedia, the free encyclopedia
Band roc Americanaidd a ystyrid yn aml fel y grŵp pync-roc gyntaf oedd y Ramones.[1][2] Ffurfiodd y band yn Forest Hills, Queens, Dinas Efrog Newydd, yn 1974,[2] a mabwysiadodd pob aelod enw perfformio gyda'r cyfenw "Ramone", er nad oeddent yn perthyn i'w gilydd. Perfformiant 2263 o gyngherddau tra buont yn teithio a pherfformio bron heb egwyl am 22 o flynyddoedd.[2] Yn 1996, ar ôl taith berfformio gyda'r ŵyl gerddorol Lollapalooza, canodd y band eu sioe olaf ac yna dadfyddinant. O fewn ychydig mwy nag wyth mlynedd wedi iddynt torri lan, roedd tri aelod cychwynnol y band—y prif ganwr Joey Ramone, y gitarydd Johnny Ramone, a'r gitarydd bas Dee Dee Ramone—wedi marw.[3]
Enghraifft o'r canlynol | band |
---|---|
Daeth i ben | 6 Awst 1996 |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Label recordio | Sire Records, Philips Records, Beggars Banquet Records, Radioactive Records, Chrysalis Records |
Dod i'r brig | 1974 |
Dechrau/Sefydlu | 1974 |
Genre | pync-roc, pop-punk |
Yn cynnwys | Joey Ramone, Johnny Ramone, Dee Dee Ramone, Tommy Ramone, Marky Ramone, Richie Ramone, C. J. Ramone, Don Ramón |
Gwefan | https://www.ramones.com/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Roedd y Ramones yn ddylanwad mawr ar y mudiad pync-roc yn yr Unol Daleithiau ac ym Mhrydain, er nad oedd eu llwyddiant masnachol yn eithriadol. Eu hunig record gyda digon o werthiannau yn yr UD i dderbyn tystysgrif aur oedd yr albwm dethol Ramones Mania.[4] Cynyddodd gydnabyddiaeth o bwysigrwydd y band dros y blynyddoedd, a heddiw fe gynrychiolant yn aml mewn nifer o asesiadau o'r gerddoriaeth roc orau erioed, megis rhestrau Rolling Stone o'r 50 Artist Gorau Erioed[5] a'r 25 Albwm Byw Gorau Erioed,[6] rhestr VH1 o'r 100 Artist Roc Galed Gorau,[7] a rhestr Mojo o'r 100 Albwm Gorau.[8] Yn 2002, fe gafodd y Ramones eu hethol fel yr ail fand roc a rôl gorau erioed gan y cylchgrawn Spin, gan golli'r prif safle i The Beatles.[9] Ar 18 Mawrth, 2002, fe gafodd y Ramones—gan gynnwys y tri sylfaenydd a'r drymwyr Marky a Tommy Ramone—eu derbyn i Neuadd Fri Roc a Rôl.[2][10]
(1974) |
|
---|---|
(1974) |
|
(1974–1978) |
|
(1978–1983) |
|
(1983–1987) |
|
(1987) |
|
(1987–1989) |
|
(1989–1996) |
|
Teitl | Label | Rhyddhawyd | Safleoedd siartiau uchaf | Aelodau | |
---|---|---|---|---|---|
UD | DU | ||||
Ramones | Sire | 23 Ebrill, 1976 | 111 | — | Joey, Johnny, Dee Dee, Tommy |
Leave Home | Sire | 10 Ionawr, 1977 | 148 | 45 | |
Rocket to Russia | Sire | 4 Tachwedd, 1977 | 49 | 60 | |
Road to Ruin | Sire | 22 Medi, 1978 | 103 | 32 | Joey, Johnny, Dee Dee, Marky |
End of the Century | Sire | 4 Chwefror, 1980 | 44 | 14 | |
Pleasant Dreams | Sire | 29 Gorffennaf, 1981 | 58 | — | |
Subterranean Jungle | Sire | Chwefror, 1983 | 83 | — | |
Too Tough to Die | Sire | Chwefror, 1984 | 172 | 63 | Joey, Johnny, Dee Dee, Richie |
Animal Boy | Sire | Mai, 1986 | 143 | 38 | |
Halfway to Sanity | Sire | 15 Medi, 1987 | 172 | 78 | |
Brain Drain | Sire | 18 Mai, 1989 | 122 | 75 | Joey, Johnny, Dee Dee, Marky |
Mondo Bizarro | Radioactive | 1 Medi, 1992 | 190 | 87 | Joey, Johnny, C. J., Marky |
Acid Eaters | Radioactive | Rhagfyr, 1993 | 179 | — | |
¡Adios Amigos! | Radioactive | 18 Gorffennaf, 1995 | 148 | 62 |