Prifysgol gyhoeddus a leolir yn Jena yn nhalaith Thüringen, yr Almaen, yw Prifysgol Friedrich Schiller Jena (Almaeneg: Friedrich-Schiller-Universität Jena).
Arwyddair | LIGHT, LIFE, LIBERTY – connecting visions |
---|---|
Math | prifysgol gyhoeddus, comprehensive university, casgliad |
Enwyd ar ôl | Friedrich Schiller |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Jena |
Sir | Jena |
Gwlad | Yr Almaen |
Cyfesurynnau | 50.9283°N 11.5822°E |
Sefydlwydwyd gan | John Frederick II of Saxony |
Sefydlwyd academi yn Jena ym 1548, a chafodd ei ddyrchafu'n brifysgol ym 1558[1] dan yr enw Prifysgol Holl Sacsonaidd Ddugol (Herzoglich Sächsische Gesamtuniversität). Hon oedd prifysgol newydd Etholyddiaeth Sachsen, wedi i'r dalaith honno golli Prifysgol Wittenberg i Dŷ Witten yn sgil Rhyfel Schmalkalden. Fe'i gelwid ar lafar yn Brifysgol Jena neu Salana (am ei fod ar lannau Afon Saale). Daeth y brifysgol i'r amlwg yn rhyngwladol yn y 18g, pryd yr oedd athronwyr o fri, gan gynnwys G. W. F. Hegel, Johann Gottlieb Fichte, a Friedrich Schiller, yn addysgu yno. Enwyd y brifysgol ar ôl Schiller ym 1934.
Mae gan y brifysgol adrannau diwinyddiaeth, y gyfraith, meddygaeth, athroniaeth, economeg, mathemateg, cemeg, bioleg, ffiseg a seryddiaeth, seicoleg, addysg, addysg gorfforol, a thechnoleg; ac athrofeydd ieithoedd, astudiaethau clasurol ac hanes meddygaeth a gwyddorau natur, yn ogystal â gardd fotaneg a llysieufa.[2]
Mae'n aelod o Grŵp Coimbra ar gyfer prifysgolion Ewropeaidd.
Cyfeiriadau
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.