From Wikipedia, the free encyclopedia
Gardd sydd â chasgliad o blanhigion byw at ddibenion ymchwil wyddonol, cadwraeth, arddangos ac addysg yw gardd fotaneg. Gall gynnwys casgliadau arbenigol o blanhigion o fathau arbennig, planhigion o rannau penodol o’r byd, neu gynefinoedd penodol ac yn y blaen. Defnyddir tai gwydr yn aml i ddarparu cynefinoedd sy'n addas ar gyfer planhigion nad ydynt yn frodorol i'r ardal.
Enghraifft o: | type of garden |
---|---|
Math | cyfleuster, sefydliad ymchwil, show garden, GLAM, man gwyrdd, casgliad |
Yn cynnwys | Jardins botaniques de France et des pays francophones |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Fel rheol, mae gerddi botanegol yn cael eu gweithredu gan brifysgolion neu sefydliadau ymchwil gwyddonol eraill, a bydd y staff yn cynnwys botanegwyr yn ogystal â garddwyr. Maent fel arfer ar agor i'r cyhoedd (yn rhannol o leiaf), ac yn cynnig rhaglenni addysgol.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.