From Wikipedia, the free encyclopedia
Sgwâr cyhoeddus a chroesffordd bwysig yng nghanol Berlin, yr Almaen, yw Potsdamer Platz (Almaeneg: [ˈpɔtsdamɐ plats]). Fe'i lleolir tua 1 km i'r de o Borth Brandenburg a'r Reichstag (Adeilad Senedd yr Almaen) yn agos i gornel dde-ddwyreiniol parc Tiergarten. Daw ei enw o ddinas Potsdam, ryw 25 km i'r de-orllewin ac mae'n dangos y pwynt lle yr oedd yr hen ffordd o Potsdam yn mynd trwy fur dinas Berlin trwy Borth Potsdam. Wedi ychydig dros ganrif o gael ei ddatblygu o groesfordd wledig i un o'r fwyaf prysur yn Ewrop,[1] fe ddiffeithiwyd y ardal yn ystod yr Ail Ryfel Byd a roedd yn aros yn ddiffaith yn ystod y Rhyfel Oer pan oedd Mur Berlin yn ei rhannu'n ddwy. Ers ailuniad yr Almaen, bu nifer o brojectau mawr i ddatblygu Potzdamer Platz.
Math | sgwâr, ensemble pensaernïol |
---|---|
Enwyd ar ôl | Potsdam, Potsdam Gate |
Cysylltir gyda | Potsdamer Straße, Ebertstraße, Leipziger Platz, Stresemannstraße, Auguste-Hauschner-Straße, Bellevuestraße, Alte Potsdamer Straße, Linkstraße, Gabriele-Tergit-Promenade |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Tiergarten, Mitte |
Sir | Mitte |
Gwlad | Yr Almaen |
Cyfesurynnau | 52.50894°N 13.37633°E |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.