Porth Madryn

Dinas arfordirol yn nhalaith Chubut, ym Mhatagonia'r Ariannin. From Wikipedia, the free encyclopedia

Porth Madryn

Tref yn Nhalaith Chubut, yr Ariannin, yw Porth Madryn (Sbaeneg: Puerto Madryn). Roedd ganddi boblogaeth o 45,047 yn 1991 a oedd wedi tyfu i 57,571 yn 2001. Mae'r dref wedi'i gefeillio gyda Nefyn.

Ffeithiau sydyn Math, Poblogaeth ...
Porth Madryn
Thumb
Thumb
Mathdinas, bwrdeistref, dinas fawr 
Poblogaeth115,353 
Sefydlwyd
  • 28 Gorffennaf 1865 
Cylchfa amserUTC−03:00 
Gefeilldref/i
Nefyn, Paola, Pisco, Puerto Montt 
Daearyddiaeth
SirBiedma 
Gwlad Yr Ariannin
Arwynebedd330 km² 
Uwch y môr17 metr 
Cyfesurynnau42.772967°S 65.03661°W 
Cod postU9120 
Thumb
Cau
Thumb
Traeth Porth Madryn
Thumb
Edrych ar y morfilod yn y Golfo Nuevo

Daearyddiaeth

Saif Puerto Madryn ar lan y môr ar y Golfo Nuevo, y bae rhwng Gorynys Valdés a Punta Ninfas. I dwristiaid, mae'n bwysig fel y dref fwyaf cyfleus ar gyfer ymweliad a Gorynys Valdés, sy'n nodedig am ei adar a bywyd gwyllt arall. Mae'r hinsawdd yn sych ac yn oer, gyda rhwng 150 a 200 mm o wlybaniaeth y flwyddyn.

Hanes

Gwelwyd yr Ewropeaid cyntaf yn y cylch yn 1779 pan laniodd Juan de la Piedra. Sefydlwyd y dref ar y 28 Gorffennaf 1865 pan gyrhaeddodd 150 o Gymry yn y llong Mimosa. Hwy a roes yr enw "Porth Madryn" i anrhydeddu Love Jones-Parry o Fadryn a oedd wedi bod o gymorth mawr iddynt. Tyfodd y dref o ganlyniad i fewnfudwyr Cymreig, Sbaeneg ac Eidaleg adeiladu rheilffordd i'w chysylltu â Threlew.

Economi

Mae'r dref yn dibynnu yn bennnaf ar dri diwydiant, cynhyrchu alwminiwm, pysgota a thwristiaeth. Cyflogir tua 1,700 o weithwyr yn y gwaith ALUAR Aluminio Argentino. Yn yr haf mae llawer o dwristiaid yn dod i fwynhau'r traethau, tra yn y gaeaf trefnir teithiau o'r dref i weld morfilod, pengwiniaid a bywyd gwyllt arall.

Thumb
Baner Porth Madryn

Gefeilldrefi

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.