From Wikipedia, the free encyclopedia
Rhoddir yr enw morfilod ar famaliaid yn urdd y morfiligion, sydd a'u tiriogaeth yn y môr. Y morfil glas (Balaenoptera musculus) yw'r anifail mwyaf yn y byd. Mae morfilod yn aelodau o urdd y morfiligion sy'n cynnwys dolffiniaid a llamidyddion.
Mae dau grŵp o forfilod:
O'r morfiligion i gyd, y morfilod yw'r ymwelydd lleiaf aml â Chymru. Cofnodwyd ers 1973, fodd bynnag, ymweliadau'r y morfil pengrwn, y morfil trwyn potel, y morfil pigfain a'r morfil danheddog ar draethau Cymru. Mae llamhidyddion a dolffiniaid yn ymwelwyr llawer mwy cyffredin, fodd bynnag, yn enwedig ym Mae Ceredigion. Mae'r morfil yn bwysig mewn llenyddiaeth sawl gwlad gan gynnwys yr Inuit, Ghana a Fietnam.
Ni fu gan Gymru erioed lynges hela morfilod, er bod rhai morwyr o Gymru wedi bod ar gychod hela Lloegr. Cafodd Aberdaugleddau ei sefydlu'n wreiddiol ar gyfer llongwyr hela morfilod o Nantucket, Massachusetts, a hynny yn y 1790au. Cychwynodd hela morfilod yn yr 17g a daeth i ben yn 1986, er bod rhai gwledydd megis Japan yn dal i'w hela.
Mae eu maint yn amrywio rhwng y morfil glas, sef yr anifail mwyaf erioed ar y blaned[1] sy'n 30 metr (98tr) a'r rhywogaeth pigmi lleiaf a elwir yn y morfil sberm lleiaf (Saesneg: pygmy sperm whale; Lladin: Kogia breviceps) sy'n 3.5 metr (11 tr). Mae'r morfil yn byw ym mhob un o gefnforoedd y byd ac mae miliynau ohonyn nhw.[2] Mae ganddyn nhw oes hir: gall y morfil cefngrwm er enghraifft fyw i fod yn 77 mlwydd oed a gall y morfil pen-bwa fyw am dros gan mlynedd.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.