Plasma gwaed

From Wikipedia, the free encyclopedia

Plasma gwaed

Y rhan hylifol o waed yw plasma gwaed sy'n cludo maetholion i gelloedd yr organau, yn cludo gwastraff metabolaidd i'r arennau, yr afu a'r ysgyfaint, ac yn cludo'r celloedd gwaed o amgylch y corff.[1] Dŵr sy'n cyfri am 92% o blasma, ac mae'r hylif hefyd yn cynnwys siwgr, braster, protein, a thoddiant halen sy'n cludo'r celloedd coch, y celloedd gwyn, a'r platennau. Mae'n cyfri am ryw 55% o gyfaint gwaed y corff dynol.[2] Mae plasma hefyd yn dosbarthu gwres trwy'r corff ac yn bwysig wrth gynnal pwysedd gwaed ac homeostasis.[1]

Ffeithiau sydyn Enghraifft o:, Math ...
Plasma gwaed
Thumb
Enghraifft o:dosbarth o endidau anatomegol 
Mathhylif allgellog, sylwedd biogenig, endid anatomegol arbennig 
Rhan ogwaed 
Yn cynnwysdŵr, halen, albumins, globulins, glwcos 
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cau

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.