Remove ads
cyfarwyddwr ffilm a aned yn Harwich yn 1928 From Wikipedia, the free encyclopedia
Arlunydd a gwneuthurwr pypedau o Loegr oedd Peter Arthur Firmin (11 Rhagfyr 1928 – 1 Gorffennaf 2018). Ef oedd sylfaenydd Smallfilms, ynghyd â Oliver Postgate. Fe wnaeth y ddau greu nifer o raglenni teledu poblogaidd i blant, yn cynnwys The Saga of Noggin the Nog, Ivor the Engine, Clangers, Bagpuss a Pogles' Wood
Peter Firmin | |
---|---|
Ganwyd | 11 Rhagfyr 1928 Harwich |
Bu farw | 1 Gorffennaf 2018 |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | character designer, darlunydd, cyfarwyddwr ffilm |
Priod | Joan Firmin |
Gwefan | http://www.peterfirmin.co.uk/ |
Ganwyd Firmin yn Harwich, Essex, yn 1928, a hyfforddodd yn Ysgol Celf Colchester yn Colchester. Ar ôl cwblhau ei Wasanaeth Cenedlaethol yn y Llynges Frenhinol, mynychodd Ysgol Ganolog Celf a Dylunio yn Llundain o 1949-1952. Roedd yn gweithio mewn stiwdio gwydr lliw, fel darlunydd ac fel darlithydd.[1]
Tra roedd yn dysgu yn yr Ysgol Gelf Ganolog daeth Oliver Postgate i chwilio am, fel y dywedodd Firmin: "... rhywun i ddarlunio stori ar deledu – rhywun a oedd yn brin o arian a fyddai'n gwneud llawer o ddarlunio am ychydig iawn o arian".[2] Aeth Postgate a Firmin ymlaen i ffurfio Smallfilms.
Roedd Firmin yn fwyaf adnabyddus fel hanner y cwmni cynhyrchu Smallfilms, a oedd yn weithgar o 1958 hyd ddiwedd y 1980au. Cynhyrchwyd rhan fwyaf o waith animeiddio Smallfilms mewn ysgubor ar dir yn berchen i Firmin yn Blean ger Caergaint yng Nghaint. Roedd Firmin yn gwneud y setiau, pypedau a chefndiroedd ar gyfer y rhaglenni, ac yn aml hefyd yn cyfrannu at wneud y synau ac effeithiau gweledol yn ystod y gwaith ffilmio.
Yn ogystal a'i waith gyda Oliver Postgate, roedd Firmin yn gwneud pypedau a rhaglenni plant eraill. Yn 1959, gyda'i wraig Joan, dyfeisiodd rhaglen o hwiangerddi ar gyfer Associated-Rediffusion yn defnyddio animeiddio byw gyda chardbord a phypedau, a elwid The Musical Box. Fe'i cyflwynwyd gan Rolf Harris ac yna gan Wally Whyton.[3]
Yn 1961, comisiynodd ITV byped arall. Tylluan fach oedd Olly Big wedi'i wneud o blu cyw iâr wedi eu gosod mewn corff wedi ei grosio. Ymddangosodd ar Smalltime, a fe'i ymunwyd ym 1962 gan Fred Barker (ci blewog a wnaed ar gyfer cynhyrchiad The Dog Watch gan Postgate/Firmin yn 1961) ac yn 1963 gan Whiffles, pyped dyfrgi, a Penelope, tylluan arall.[4]
Cyd-greodd Firmin, gyda Ivan Owen, y pyped Basil Brush yn 1962. Gwnaeth y pypedau cyntaf ar gyfer The Tree Scampies, gan ddefnyddio cynffon llwynog go iawn, gan roi'r enw 'brush' i'r cymeriad.
Ar gyfer y Diwrnod Degol yn y DU (15 Chwefror 1971), ailymddangosodd Muskit gyda Firmin a wnaeth daith i'r siopau mewn rhaglen i ysgolion ar deledu'r BBC.[5]
Parhaodd Firmin i weithio fel darlunydd. Ysgrifennodd a darluniodd llawer o lyfrau am gymeriadau Smallfilms, yn ogystal â llyfrau plant ei hunan a llyfrau ar gyfer oedolion, gan gynnwys barddoniaeth Vita Sackville-West's (ISBN 97808635027299780863502729) a Seeing Things, hunangofiant Postgate (ISBN 978-1847678416978-1847678416).
Wedi ymddeol o waith teledu, parhaodd Firmin i greu engrafiadau a phrintiau leino.[6]
Yn 1994, paratodd Firmin ddarlun ar gyfer stamp Prydeinig, SG1804, yn cynnwys cymeriadau o Noggin y Nog. Roedd yn un o gyfres yn cynnwys cymeriadau o llenyddiaeth plant Prydeinig. Cynhyrchodd rhagor o luniau ar gyfer yr ymgyrch hysbysebu i roi cyhoeddusrwydd i'r stampiau.[7][8]
Dyfarnwyd iddo anrhydedd MA gan Brifysgol Caint ar 17 Gorffennaf 1987. Yn 2011 rhoddwyd Rhyddid Dinas Gaergaint iddo fel cydnabyddiaeth o'i "waith rhagorol".[9]
Ym mis Tachwedd 2014, cyhoeddwyd byddai Firmin yn cael eu hanrhydeddu yn Ngwobrau Plant BAFTA.[10]
Roedd Firmin yn briod â Joan, a weodd y Clangers o wlân pinc llachar. Cyfarfu'r ddau yn Ysgol Ganolog Celf a Dylunio yn Llundain, lle roedd Joan yn astudio rhwymo llyfrau. Priododd y cwpl yn 1952 gan fyw yn Llundain cyn symud i swydd Caint, ym 1959. Roedd ganddynt chwech o ferched:[11] Ymddangosodd un, Emily, yng ngolygfa agoriadol Bagpuss.
Roedd y teulu yn byw ar fferm yn Blean, Caint, lle cynhyrchodd Smallfilms eu rhaglenni.
Ar 1 Gorffennaf 2018, cyhoeddwyd bod Peter Firmin wedi marw yn 89 oed.[12]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.