Percy Thomas

pensaer ac ymgynghorwr ar gynllunio From Wikipedia, the free encyclopedia

Percy Thomas

Pensaer o dras Gymreig a fu'n gweithio'n helaeth yng Nghymru oedd Syr Percy Edward Thomas (12 Medi 188317 Awst 1969). Roedd yn lywydd Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain (RIBA) ar ddau achlysur, ym 1935–7 a 1943–6.[1]

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Percy Thomas
Thumb
Ganwyd13 Medi 1883 
South Shields 
Bu farw19 Awst 1969 
Llanisien 
Dinasyddiaeth Cymru
Alma mater
  • Ysgol Uwchradd Howardian 
Galwedigaethpensaer 
Gwobr/auMedal Aur Frenhinol, OBE, Marchog Faglor 
Cau
Thumb
Guildhall Abertawe
Ffeithiau sydyn
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Cau

Fe'i ganwyd yn South Shields, Swydd Durham, yn fab i Christmas Thomas, gapten llong o Arberth, Sir Benfro, a'i wraig Cecilia (Thornton gynt). Dychwelodd y teulu i Gymru pan oedd Percy yn ddeg oed, wedi'u denu gan y diwydiant glo. Ym 1903, enillodd Percy Thomas y wobr pensaerniaeth yn Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn honno. Ym 1911 enillodd gystadleuaeth, ar y cyd â'i ffrind, Ivor Jones o Gaerdydd, i gynllunio'r Coleg Technegol ym Mharc Cathays, Caerdydd (rhagflaenydd Prifysgol Fetropolitan Caerdydd). Adwaenir yr adeilad hwn bellach fel Adeilad Bute, ac mae'n rhan o Brifysgol Caerdydd. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ymladdodd ym Mrwydr y Somme. Pan ddychwelodd o'r fyddin, cynlluniodd dafarnau ar gyfer S. A. Brain. Yn y 1930au, cynlluniodd ei weithiau pwysicaf, gan cynnwys Guildhall Abertawe, y Deml Heddwch yng Nghaerdydd a nifer o adeiladau Coleg Prifysgol Aberystwyth. Bu farw yn ei gartref yn Llanisien, Caerdydd, ym 1969.

Rhai o'i weithiau

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.