pêl-droediwr Cymreig From Wikipedia, the free encyclopedia
Hyfforddwr pêl-droed Cymreig yw Osian Roberts sydd yn is-reolwr Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru[1] ers 21 mis Gorffennaf 2015.[2]
Gwybodaeth Bersonol | |||
---|---|---|---|
Man geni | Sir Fôn, Cymru | ||
Safle | Canolwr cae canol | ||
Y Clwb | |||
Clwb presennol | Cymru (is-reolwr) | ||
Gyrfa Lawn* | |||
Blwyddyn | Tîm | Ymdd† | (Gôl)† |
Dinas Bangor | |||
Prifysgol Furman | |||
New Mexico Chiles | |||
Timau a Reolwyd | |||
New Mexico Chiles | |||
1996–1999 | Cymru dan-16 | ||
1996–1999 | Cymru dan-18 | ||
1999 | Cymru B | ||
1999–2007 | Porthmadog | ||
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd.. † Ymddangosiadau (Goliau). |
Ganwyd Roberts ar Ynys Môn,[3] a magwyd ef ym Modffordd.
Mynychodd Ysgol Gyfun Llangefni.[4] Roedd yn bêl-droediwr talentog ac yn gapten tîm Ysgolion Cymru. Yn 1985 derbyniodd Ysgoloriaeth Pêl-droed, i astudio am radd mewn Addysg Gorfforol ym Mhrifysgol Furman yn Ne Carolina yn yr Unol Daleithiau.
Darlledwyd cyfres ddogfen deledu o'r enw Byd Pêl-droed Osian Roberts ar S4C yn 2014.[5][6]
Ar 17 Gorffennaf 2017 derbyniodd Gymrodoriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Bangor[7] yr oedd eisoes wedi derbyn Cymrodorion Anrhydeddus gan Brifysgol De Cymru a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.[8]
Yn 2017 cafodd ei benodi’n Llywydd Anrhydeddus Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ynys Môn 2017 a chafodd ei urddo i wisg las Gorsedd y Beirdd.
Yn 2016 cyhoeddwyd ei hunangofiant Môn, Cymru a’r Bêl gan gwmni’r Lolfa [9]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.