llys barn rhestredig Gradd I yn Nhrefynwy From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Neuadd y Sir, Trefynwy yn adeilad a gofrestrwyd oherwydd ei werth hanesyddol fel gradd 1.[1] Cafodd ei adeiladu yng nghanol y dref yn 1724 fel llys barn ar gyfer Sir Fynwy. Dyma leoliad achos llys y Siartydd mawr John Frost ac eraill am deyrnfradwriaeth am eu rhan yn nherfysg Casnewydd. Wedi hynny, defnyddiwyd yr adeilad fel marchnad anifeiliaid.
Perchennog yr adeilad, bellach, ydy Cyngor Sir Fynwy ac mae'r lle'n agored i ymwelwyr. Mae yma hefyd ganolfan ymwelwyr a swyddfa Cyngor y Dref.
Caewyd y Llys Ynadon yn 197 a Llys y Goron yn 2002. Gwnaeth Gyngor Sir Fynwy gais llwyddiannus i'r Heritage Lottery Fund am y swm o £3.2, gydag un filiwn ychwanegol yn cael ei roi gan y Cyngor Sir. Mae'r llys yn agored i'r cyhoedd.
Saif cerflun o Harri V, brenin Lloegr (9 Awst neu 16 Medi 1387 – 31 Awst 1422) ar fur ffrynt y neuadd: uwch y brif fynedfa, gyda chloc y dref yn union uwch ei ben. Yn ôl llawer, hen gerflun digon tila ydy o a chaiff ei ddisgrifio fel: "rather deplorable", a "pathetic..like a hypochondriac inspecting his thermometer"[2]. Cafodd ei ychwanegu yn 1792 gan Charles Peart i gofio'r ffaith i'r brenin gael ei eni yng nghastell y dref. Mae'r ysgrifen ar bedestal y cerflun yn darllen: HENRY V, BORN AT MONMOUTH, AUG 9TH 1387. Gwyddys, bellach, fodd bynnag fod y dyddiad geni hwn yn anghywir.[3]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.