rhywogaeth o adar From Wikipedia, the free encyclopedia
Aderyn a rhywogaeth o adar yw Môr-wennol fach (sy'n enw benywaidd; enw lluosog: môr-wenoliaid bach) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Sterna albifrons; yr enw Saesneg arno yw Little tern. Mae'n perthyn i deulu'r Gwylanod (Lladin: Laridae) sydd yn urdd y Charadriiformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae i'w ganfod yng Nghymru.
Môr-wennol fach Sterna albifrons | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Charadriiformes |
Teulu: | Laridae |
Genws: | Sternula[*] |
Rhywogaeth: | Sternula albifrons |
Enw deuenwol | |
Sternula albifrons | |
Dosbarthiad y rhywogaeth |
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn S. albifrons, sef enw'r rhywogaeth.[2] Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod ar arfordir Asia, Ewrop, Affrica ac Awstralia. Fel y rhan fwyaf o'r môr-wenoliaid, maent yn nythu gyda'i gilydd, weithiau gannoedd neu filoedd o adar, ar yr arfordir neu ar ynysoedd. Yn y gaeaf, mae'n symud tua'r de, ac yn cyrraedd cyn belled a De Affrica ac Awstralia.
Mae'r fôr-wennol yn aderyn gymharol fechan, 21–25 cm o hyd a 41–47 cm ar draws yr adenydd.
Ceir tair is-rywogaeth, S. a. albifrons yn Ewrop, Gogledd Affrica a gorllewin Asia, S. a. guineae yng ngorllewin a chanolbarth Affrica, a S. a. sinensis yn nwyrain Asia a gogledd a dwyrain Awstralia.
Ar un adeg roedd y fôr-wennol fechan yn aderyn gweddol gyffredin o gwmpas arfordir Cymru yn yr haf, ond erbyn hyn dim ond mewn un lle mae'n nythu yng Nghymru, sef Gronant yn y gogledd-ddwyrain.
Mae'r fôr-wennol fach yn perthyn i deulu'r Gwylanod (Lladin: Laridae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:
Rhestr Wicidata:
rhywogaeth | enw tacson | delwedd |
---|---|---|
Chroicocephalus bulleri | Chroicocephalus bulleri | |
Chroicocephalus cirrocephalus | Chroicocephalus cirrocephalus | |
Gwylan Bonaparte | Chroicocephalus philadelphia | |
Gwylan Hartlaub | Chroicocephalus hartlaubii | |
Gwylan arian | Chroicocephalus novaehollandiae | |
Gwylan benddu | Chroicocephalus ridibundus | |
Gwylan benfrown De America | Chroicocephalus maculipennis | |
Gwylan benfrown India | Chroicocephalus brunnicephalus | |
Gwylan ylfinfain | Chroicocephalus genei | |
Gwylan yr Andes | Chroicocephalus serranus |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.