Llenor, casglwr llên gwerin Gymraeg a hynafieithydd o Gymru oedd John Jones (1835 - 27 Gorffennaf 1921), sy'n fwy adnabyddus wrth ei ffugenw llenyddol "Myrddin Fardd".
Bywgraffiad
Ganwyd John Jones yn nhyddyn Tan-y-Ffordd, Mynytho, plwyf Llangïan, Llŷn, ac fe'i bedyddiwyd yn Eglwys Llangïan ar 8fed o Fedi 1835, yn fab i John ac Ann Owen. Roedd ei frawd hŷn, Owain, yn ysgolhaig a llenor a dreuliai lawer o amser yn y Llyfrgell Brydeinig tra'n gweithio yn Llundain, yn chwilota am ddeunydd ar gyfer ei erthyglau i gylchgronau fel Y Brython a Golud yr Oes. Etifeddodd John nodiadau ei frawd ar ôl ei farwolaeth yn 1866. Dysgodd ei grefft fel gof yng ngefail Y Pandy, Chwilog. Er na dderbyniodd ond ychydig o addysg (yn Ysgol Elfennol y Foel Gron, Mynytho), roedd yn ymchwilydd brwdfrydig a ymddiddorai yn hanes a thraddodiadau ei fro a'r hen Sir Gaernarfon. Bu farw'n sydyn yn ei gartref yn Chwilog, 27 Gorffennaf 1921 yn 85 oed, ac fe'i claddwyd ym mynwent gyhoeddus Chwilog.
Gwaith llenyddol
Llyfr cyntaf John Jones oedd Golygawd o Ben Carreg yr Imbill, Gerllaw Pwllheli (1858). Ysgrifennodd nifer o erthyglau a phytiau i gylchgronau yn ystod ei oes. Ei gampwaith, efallai, yw Llên Gwerin Sir Gaernarfon (1908). Ymhlith ei lyfrau eraill mae Enwogion Sir Gaernarfon (1922), Adgof Uwch Anghof (1883), Gleanings from God's Acre (1903), Gwerin-Eiriau Sir Gaernarfon (1907). Golygodd hefyd Cynfeirdd Lleyn (1905), cyfrol swmpus sy'n cynnwys gwaith Wiliam Llŷn a beirdd eraill o ardal Llŷn.
Llyfryddiaeth ddethol
Gwaith Myrddin Fardd
- Golygawd o Ben Carreg yr Imbill, Gerllaw Pwllheli (1858)
- Adgof Uwch Anghof (1883)
- Gleanings from God's Acre (1903)
- (gol.), Cynfeirdd Lleyn (1905)
- Gwerin-Eiriau Sir Gaernarfon (1907)
- Llên Gwerin Sir Gaernarfon (1908)
- Enwogion Sir Gaernarfon (1922)
Llyfrau amdano
- Cybi, Cymeriadau Hynod Sir Gaernarfon (1923).
- Cybi, John Jones (Myrddin Fardd) (Llandysul, 1945).
- John Jones yn Y Bywgraffiadur Cymreig
Cyfeiriadau
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.