Llyfrgell Brydeinig

prif lyfrgell y Deyrnas Unedig, yn Llundain From Wikipedia, the free encyclopedia

Llyfrgell Brydeinig

Llyfrgell genedlaethol y Deyrnas Unedig ydy'r Llyfrgell Brydeinig (Saesneg: British Library).[1] Lleolir y llyfrgell yn St. Pancras, Llundain. Mae'n un o lyfrgelloedd ymchwil pwysica'r byd; yn dal dro 150 miliwn o eitemau ym mhob iaith a fformat;[2] llyfrau, newyddiaduron, papurau newydd, cylchgronau, recordiau sain a cherddoriaeth, breinleni, cronfa ddata, mapiau, stampiau, argraffiadau, darluniau a llawer mwy, gan ei wneud yn gasgliad mwya'r byd. Mae casgliadau'r llyfrgell yn cynnwys tua 14 miliwn o lyfrau,[3][4] ynghyd â casgliad ychwanegol o lawysgrifau sylweddol ac eitemau hanesyddol yn dyddio'n ôl i 2000 CC.

Thumb
Y Llyfrgell Brydeinig, gyda cherflun gan Eduardo Paolozzi
Ffeithiau sydyn Math, Ardal weinyddol ...
y Llyfrgell Brydeinig
Thumb
Mathllyfrgell genedlaethol, reference library, llyfrgell ymchwil, universal library, corff cyhoeddus anadrannol, atyniad twristaidd, adeilad llyfrgell 
Ardal weinyddolBwrdeistref Llundain Camden
Sefydlwyd
  • 1 Gorffennaf 1973 
Daearyddiaeth
LleoliadSt Pancras, Thorp Arch Trading Estate 
SirLlundain Fwyaf
(Sir seremonïol)
Gwlad Lloegr
Cyfesurynnau51.52944°N 0.12694°W 
Cod OSTQ2997082897 
Cod postNW1 2DB 
Thumb
PerchnogaethAdran Ddigidol 
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I 
Manylion
Cau

Llawysgrifau Cymraeg

Cedwir sawl llawysgrif Gymraeg yn y Llyfrgell Brydeinig. Gwaddolwyd y rhan fwyaf ohonynt i'r llyfrgell gan y Gwyneddigion yn hanner cyntaf y 19g, yn y dyddiau cyn sefydlu Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Maent yn cynnwys casgliadau'r Morysiaid, yn cynnwys rhai yn llaw Lewis Morris ei hun, ac eraill a gasglwyd gan Owain Myfyr ac aelodau eraill o'r gymdeithas, sy'n cynnwys sawl llawysgrif ganoloesol hefyd.

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.