Pysgodyn sy'n byw mewn dŵr croyw ac sy'n perthyn i deulu'r Cyprinidae ydy'r merfog sy'n enw gwrywaidd; lluosog: merfogiaid (Lladin: Abramis brama; Saesneg: Common bream). Caiff ei ystyried, bellach, fel yr unig aelod o'r genws Abramis.
Merfog | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Cypriniformes |
Teulu: | Cyprinidae |
Genws: | Abramis |
Rhywogaeth: | A. brama |
Enw deuenwol | |
Abramis brama (Linnaeus 1758) | |
Mae ei diriogaeth yn cynnwys Ewrop: i'r gogledd o'r Alpau a'r Pyreneau yn ogystal â'r Balcanau. Fe'i ceir i'r dwyrain cyn belled â'r Môr Caspia, y Môr Du a'r Môr Aral. Mae'n bysgodyn dŵr croyw ac mae i'w ganfod ar arfordir Cymru.
Mae'r Merfog i'w ganfod mewn pyllau dŵr, llynnoedd a chamlesi, a hyd yn oed afonydd llif-araf. Ar restr yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur (UICN), caiff y rhywogaeth hon ei rhoi yn y dosbarth 'Lleiaf o Bryder' o ran niferoedd, bygythiad a chadwraeth.[1]
Mae'r merfog rhwng 30 a 55 cm (12 i 22 modfedd) ar gyfartaledd, ac yn pwyso 2 4 kg (4.4 to 8.8 pwys). Mae'r enghraifft mwyaf ohono tipyn yn fwy na hyn, fod bynnag: 90 cm (35.5 mod) a 9.1 kg (20 pwys)!
Mae'n llwyd ysgafn ei liw, sy'n tywyllu ychydig, wrth i'r pysgodyn fynd yn hŷn, gyda gwawr ysgafn, goch, yn enwedig mewn dŵr glân. Mae'r ffins yn llwyd tywyll, heb wawr goch.
- Rhestr o greaduriaid morol gwledydd Prydain
- Rhestr Goch yr IUCN, rhestr o greaduriaid wedi'u dosbarthu i 9 categori yn ôl niferoedd, prinder, cadwraeth ayb.
- Llwybr yr Arfordir
- Cadwraeth
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.