mudiad Cymreig a losgodd dros 150 o ail-gartrefi yn y 1970au a'r 1980au From Wikipedia, the free encyclopedia
Mudiad cenedlaetholgar Cymreig treisgar oedd Meibion Glyn Dŵr, yn gwrthwynebu'r trai ar y diwylliant a'r iaith Gymraeg. Fe'i ffurfiwyd i wrthwynebu'r cynnydd aruthrol mewn tai haf o ddiwedd y 1970au ymlaen a chanlyniad hynny, sef bod llawer o'r bobl leol yn methu fforddio prynu tai. Roedd y mudiad yn gyfrifol am losgi tai haf yng Nghymru a oedd yn eiddo i Saeson rhwng 1979 a chanol y 1990au.
Enghraifft o'r canlynol | mudiad anghyfreithlon |
---|---|
Cysylltir gyda | Operation Tân |
Dechrau/Sefydlu | Rhagfyr 1979 |
Enw brodorol | Meibion Glyndŵr |
Gwladwriaeth | Cymru |
Daeth y grŵp i amlygrwydd am y tro cyntaf yn Rhagfyr 1979. Yn ystod y ton gyntaf o ymosodiadau, dinistriwyd wyth tŷ haf a oedd yn eiddo i Saeson mewn cyfnod o fis. Ym 1980, gwnaeth yr heddlu yng Nghymru gyfres o gyrchoedd a alwyd yn "Operation Tân". Dros y deng mlynedd nesaf, difrodwyd tua 220 o gartrefi. Cyrhaeddodd yr ymgyrch ei hanterth ar ddiwedd y 1980au pan dargedwyd tai haf Aelodau Seneddol Ceidwadol a daeth David Hunt, yr Ysgrifennydd Cymreig ar y pryd, yn darged iddynt ym 1990.
Cymrodd bedwar mudiad gwahanol gyfrifoldeb am yr ymgyrch fomio: Mudiad Amddiffyn Cymru, Cadwyr Cymru, Meibion Glyn Dŵr, a'r Welsh Army for the Workers Republic (WAWR). Fodd bynnag, Meibion Glyndwr yw'r unig grŵp i honni iddynt gael llwyddiant hir-dymor, er fod y grŵp wedi bod yn anweithredol ers canol y 1990au gyda gweithredu cenedlaethol Cymreig wedi darfod. Arwyddwyd y llythyron yn cymryd cyfrifoldeb am yr ymosodiadau "Rhys Gethin", fel teyrnged i un o ddilynwyr mwyaf teyrngar Owain Glyn Dŵr.
Mae rhan fwyaf yr ymosodiadau'n parhau heb eu datrys heddiw. Yn ystod y 1990au, ail-agorwyd yr achos o fomiau post a arweiniodd at Siôn Aubrey Roberts yn cael ei ddyfarnu'n euog o'r drosedd. Defnyddiwyd profi DNA yn yr achos. Honnwyd fod 35 aelod o'r gwasanaethau cudd wedi dilyn Roberts wedi iddo gymryd rhan mewn gorymdaith cenedlaetholgar yng Nghaernarfon ym 1991.[1] Yn 2004, dywed Elfyn Llwyd y gallai'r gwasanaethau cudd fod wedi trefnu'r ymgyrch eu hunan er mwyn difrïo cenedlaetholdeb Cymreig. Atebodd Gweinidog Diwylliant Cymru Alun Pugh fod Llwyd wedi gwylio gormod o benodau The X-files.[2]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.