From Wikipedia, the free encyclopedia
Ym 1993 cyhuddwyd Siôn Aubrey Roberts (ganwyd 1972), dyn ifanc o Langefni, Ynys Môn, o ddau achos o gynllwynio i achosi ffrwydriadau, ac o anfon deunydd ffrwydrol trwy'r post (bomiau llythyr) i Syr Wyn Roberts (AS Conwy), yr asiant Torîaidd Elwyn Jones, a dau aelod blaenllaw o Heddlu Gogledd Cymru. Ei gyd-amddiffyddion oedd David Gareth Davies a Dewi Prysor Williams.
Digwyddodd hyn ar adeg pan fu ymgyrch llosgi tai haf Meibion Glyndŵr ar ei anterth a'r heddlu a MI6 yn methu darganfod pwy oedd yn gyfrifol. Ar ôl achos llys yng Nghaernarfon a barodd am ddeufis, fe'i cafwyd yn euog ym mis Mawrth 1993. Cafodd ei ddedfrydu i ddeuddeg mlynedd o garchar ar 26 Mawrth.[1]
Erys yr achos yn bwnc dadleuol hyd heddiw. Yn ôl nifer o Gymry amlwg roedd y dystiolaeth yn ffug.[angen ffynhonnell] Honnodd Roberts iddo gael ei fframio gan yr heddlu a swyddogion MI5.[1] Fodd bynnag, yn yr achos llys, dywedwyd fod swyddogion MI5 wedi torri i mewn i'w gartref ar ddwy achlysur er mwyn cuddio dyfeisiadau gwrando. Ffilmiodd ditectifs Roberts yn gwisgo offer amddiffynnol wrth iddo drin ffrwydriadau.[1] Roedd arestio'r actor adnabyddus Bryn Fôn a'i bartner Anna Williams, yr actor ac ysgrifennwr Mei Jones (cyd-aelod cast C'mon Midffild!), a'r actor Dyfed Thomas yn aros yng nghof y cyhoedd. Wedi i'r ymgyrch llosgi tai haf ddechrau yn Rhagfyr 1979, ysgrifennodd Fôn gân yn bychanu ymdrechion aflwyddiannus yr heddlu i ddal y rhai a oedd yn gyfrifol. Yn 1990 disgynodd sawl ditectif ar ei dŷ ac arestwyd ef ynghyd a'i bartner, Anna, wedi iddynt ganfod pecyn wedi'i guddio yn un o'r waliau ar dir ei dyddyn. Delwyd ef yn swyddfa heddlu Dolgellau am 48 awr cyn cael ei ryddhau heb gyhuddiad. Arestiwyd Mei Jones ar yr un adeg.[2]
Honnir i 38 o swyddogion MI5 ddilyn Roberts ar ôl iddo gymryd rhan mewn gorymdaith cenedlaetholgar yng Nghaernarfon yn 1991.[3] Noda'r newyddiadurwr John Humphreys hefyd mai Roberts yw'r unig berson i'w gael yn euog fel rhan o'r ymgyrch losgi er ei fod yn saith mlwydd oed yn unig pan ddechreuodd yr ymgyrch.[4]
Cyhoeddwyd cyfrol o farddoniaeth - Canhwyllau - mewn teyrnged i Siôn Aubrey gan Pwyllgor Amddiffyn Carcharorion Gwleidyddol Cymru ym mis Awst 1995. Ymhlith y cyfranwyr oedd Ifor ap Glyn, Twm Morys, Gerallt Lloyd Owen, Dic Jones, Dewi Prysor, Iwan Llwyd, Myrddin ap Dafydd, Gwyn Thomas ac Alan Llwyd. Yn ôl y pwyllgor, roedd cannoedd o Gymry wedi mynychu'r llys a miloedd wedi'i dilyn ar y teledu ac yn y wasg, ac iddyn nhw "roedd y dyfarniad yn hollol annisgwyl, ac yn warth".[5] Cyhuddwyd tystion yr heddlu o groes-ddweud ei gilydd: "Gwelwyd sawl gwaith blismyn profiadol a phroffesiynol yn croes-ddweud ei gilydd i bwynt lle nad oedd yn gorfforol bosibl iddynt fod yn dweud y gwir; a gwelwyd swyddogion sinistr MI5 yn disgrifio digwyddiadau wnae fwy o synnwyr petaent yn rhan o sgript Inspector Clouseau."[5] Cyhuddwyd yr awdurdodau o ddewis rheithgor gwrth-Gymreig: "Gwelwyd rheithgor a gynwysai elfennau gwrth-gymreig yn dyfarnu yn ôl eu rhagfarnau yn hytrach na'u cydwybod. Dyma ffrwyth y goeden estron. Ni chafwyd cyfianwder yng Nghaernarfon ym mis Mawrth 1993."[5]
Yng Ngorffennaf 2023, cyfaddefodd Roberts am y tro cyntaf ei fod wedi bod yn rhan ymgyrch Meibion Glyndŵr. Fe ymunodd a'r grŵp yn 1984 pan oedd yn 12 mlwydd oed.[6]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.