Mary Wynne Warner

mathemategydd From Wikipedia, the free encyclopedia

Mathemategydd o Gymru oedd Mary Wynne Warner (22 Mehefin 19321 Ebrill 1998) oedd yn arbenigo mewn mathemateg niwlog (fuzzy mathematics).[1][2] Nododd ei hysgrif goffa ym Mwletin Cymdeithas Fathemategol Llundain mai topoleg niwlog oedd "y maes lle'r oedd hi'n un o'r arloeswyr ac fe'i cydnabyddir fel un o'r bobl flaenllaw dros y tri deg mlynedd diwethaf."[3]

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Mary Wynne Warner
GanwydMary Wynne Davies 
22 Mehefin 1932 
Caerfyrddin 
Bu farw1 Ebrill 1998 
Sbaen 
Dinasyddiaeth Cymru
Alma mater
ymgynghorydd y doethor
  • Andrzej Białynicki-Birula 
Galwedigaethmathemategydd 
Cyflogwr
  • City, Prifysgol Llundain
  • Coleg Bedford 
Adnabyddus amLattices and lattice-valued relations in biology 
Cau

Bywyd cynnar ac addysg

Ganwyd Mary Wynne Davies yng Nghaerfyrddin, Cymru, yn ferch hynaf i Sydney ac Esther Davies. Magwyd hi yn Llanymddyfri, lle'r oedd ei thad yn ysgolfeistr. Cafodd ei haddysg yn Ysgol Breswyl Howell's yn Ninbych.[4]

Enillodd ysgoloriaeth i astudio yng Ngholeg Somerville, Rhydychen, lle bu'n canolbwyntio ar dopoleg yn ei astudiaethau mathemategol gyda Henry Whitehead, gan ennill gradd ail ddosbarth yn 1953[5]. Astudiodd am ei doethuriaeth ym Mhrifysgol Warsaw, gyda thraethawd hir yn dwyn y teitl "The Homology of Cartesian Product Spaces" (1966).

Gyrfa

Lluniwyd gyrfa Mary Wynne Warner gan aseiniadau diplomyddol ei gŵr. Gwnaeth ymchwil yn Beijing, pan oedd ei gŵr yn gweithio yno. Gyda phenodiad diplomyddol arall yn Rangoon, bu'n dysgu mathemateg uwch. Am gyfnod yn ystod y 1970au, roedd ganddi swyddi dysgu mewn dwy brifysgol yn Kuala Lumpur. Yn ystod cyfnodau estynedig yn Lloegr, bu'n dysgu ym Mhrifysgol Dinas Llundain, lle ddaeth o'r diwedd yn athro yn 1996.

Bywyd personol

Priododd Mary Wynne Davies diplomydd a swyddog cudd-wybodaeth Syr Gerald Warner yn 1956. Roedd ganddynt tri o blant, Sian (g. 1958), Jonathan (g. 1959), a Rachel (g. 1961), pob un wedi eu geni mewn gwahanol wledydd. Bu farw yn 1998, yn Sbaen, yn 65 oed. Claddwyd hi ym mynwent eglwys Kemerton lle'r oedd dau o'i blant eisoes wedi eu claddu.[3]

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.