From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd Mary Barbour (née Rough) (20 Chwefror 1875 – 2 Ebrill 1958) yn actifydd gwleidyddol o'r Alban, cynghorydd lleol, beili ac ynad. Roedd ganddi gysylltiad agos â mudiad Red Clydeside ar ddechrau'r 20g ac yn hysbys am ei rôl fel prif drefnydd menywod Govan a gymerodd ran yn streiciau rhent 1915.[1]
Mary Barbour | |
---|---|
Ganwyd | 22 Chwefror 1875 Kilbarchan |
Bu farw | 2 Ebrill 1958 Southern General Hospital |
Dinasyddiaeth | Yr Alban |
Galwedigaeth | ynad, gwleidydd |
Swydd | cynghorydd, ynad heddwch |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Lafur |
Ganwyd Barbour ar 20 Chwefror 1875 yn 37 New Street, Kilbarchan i Jean Gavin a James Rough, y trydydd o saith o blant. Mynychodd Barbour ysgol nes ei bod yn bedair ar ddeg oed. Ym 1887, symudodd y teulu i bentref Elderslie ac enillodd hi waith fel gweithiwr tecstilau, gan ddod yn argraffydd carped yn y pen draw. Ar 28 Awst 1896, priododd y peiriannydd David Barbour (2 Mai 1873 - 13 Tachwedd 1957) yn Wallace Place, Elderslie. Erbyn cyfrifiad 1901, roedd y cwpl wedi ymgartrefu yn Govan yn 5 Macleod Street, lle roeddent yn byw gyda'u mab James.[2] Erbyn cyfrifiad 1911, roedd y teulu, gan gynnwys mab arall William, wedi symud i 43 Ure Street (Uist Street erbyn hyn).[3]
Yn 1933 symudodd Barbour i dŷ cyngor,34 Cromdale Street yn Drumoyne, Glasgow lle bu hi'n byw hyd at ei marwolaeth.[4] Bu farw'r flwyddyn ar ôl ei gŵr David yn 83 oed yn ysbyty 'Southern General', Glasgow, a chynhaliwyd ei hangladd yn Amlosgfa Craigton yn Cardonald, ger Govan.
Daeth Barbour yn weithgar yn wleidyddol ar ôl ymuno a dod yn aelod gweithgar o Urdd Cydweithredol Kinning Park. Dechreuodd ei hactifiaeth wleidyddol o ddifrif wrth iddi arwain Cymdeithas Tai Merched De Govan yn ystod streiciau rhent Glasgow ym 1915. Drefnodd bwyllgorau tenantiaid a ymwrthedd yn erbyn troi allan. Daeth y protestwyr yn adnabyddus fel "Mrs Barbour's Army", ac roeddent yn cynnwys Agnes Dollan, Helen Crawfurd, Mary Laird, a Mary Jeff.
Roedd Barbour yn un o sylfaenwyr y Woman's Peace Crusade (WPC) yng "Nghynhadledd Mawr Heddwch y Merched" ym mis Mehefin 1916, gyda Helen Crawfurd ac Agnes Dollan.[5]
Bu'r WPC yn ymgyrchu trwy gydol Mehefin a Gorffennaf 1916 i negodi setliad heddwch i'r Rhyfel Byd Cyntaf. Fe wnaethant hyn yn bennaf trwy gyfarfodydd awyr agored yn Glasgow, Clydeside a Chaeredin. Daeth y posibilrwydd o setliad wedi'i negodi yn llai tebygol gyda ffurfio llywodraeth glymblaid newydd ym mis Rhagfyr 1916, dan arweiniad Lloyd George.[6]
Roedd Chwyldro Rwsia a Gwrthryfel Pasg Iwerddon yn gatalydd ar gyfer gweithrediaeth heddwch o'r newydd yn yr Alban, gan gynnwys gwaith y WPC.[7][8] Daeth dathliad Calan Mai 1917 â 70,000 o bobl at ei gilydd yn Glasgow Green. Roedd gweithredwyr heddwch benywaidd, gan gynnwys Barbour, Dollan a Mary Burns Laird, yn amlwg ymhlith y siaradwyr. Ysbrydolodd y math hwn o weithgaredd ail-lansiad Croesgad Heddwch y Merched ym mis Gorffennaf 1917. Digwyddodd hyn ar Glasgow Green a gwelwyd 10,000 o bobl yn cymryd rhan.[9] Yna sefydlwyd canghennau eraill y WPC ledled yr Alban, de Cymru a Lloegr. Parhaodd eu hymgyrch tan ddiwedd y Ryfel Byd Cyntaf.[10]
Ym 1920, safodd Barbour fel yr ymgeisydd Llafur ar gyfer ward Fairfield yn Govan, ac fe’i hetholwyd i Gyngor Tref Glasgow, gan ddod yn un o gynghorwyr benywaidd cyntaf y ddinas. Er bod Barbour yn aml yn cael ei gredydu fel 'y cynghorydd Llafur benywaidd gyntaf yng Nglasgow',[5] nid yw hyn yn wir. Dim ond un o grŵp arloesol o bum menyw a etholwyd ym 1920 oedd Barbour. Roedd y grwp yma yn cynnwys Eleanor Stewart (Maryhill), Jessica Baird-Smith, Mary Bell a Mary Anderson Snodgrass.[11] Mae'n ymddangos bod y camsyniad ynghylch Barbour fel y cynghorydd Llafur benywaidd gyntaf yn tarddu o llyfr Patrick Dollan am Gymdeithas Gydweithredol Kinning Park, a gyhoeddwyd ym 1923. Wrth sefyll yn yr etholiad nododd Barbour fod dyfodiad ymgeisydd benywaidd yn cael ei ystyried yn warthus gan rai dynion, ond roedd yn dadlau bod angen cynghorwyr benywaidd i fynd i’r afael â materion a oedd yn effeithio ar fenywod a phlant.[12]
O 1924 i 1927 roedd Barbour yn un o'r merched cyntaf y Glasgow Corporation i gwasanaethu fel Beili , ochr yn ochr â Mary Bell [13] . Fe'i penodwyd yn un o'r ynadon benywaidd cyntaf yn Glasgow. a fe'i penodwyd yn Ynad Heddwch dros Ddinas Glasgow ym mis Ionawr 1928 [14] .
O 1925, roedd Barbour yn Gadeirydd Clinig Lles a Chynghori Merched Glasgow.[1] Siaradodd ym mis Awst 1926 ar gyfer agoriad clinig mewn siop yn Govan Road, sef y safle cyntaf i cynnig cyngor ar reoli genedigaeth yn yr Alban.[15] Yn dilyn hynny, symudodd y clinig i 123 Montrose Street, Glasgow yn ystod 1932.[16]
Ym mis Tachwedd 1926, mynychodd Barbour agoriad Clinig Lles Plant West Govan [17] Mae'r adeilad hwn, yn 20 Arklet Street, Govan, yn parhau i gael ei ddefnyddio gan NHS Greater Glasgow a Clyde fel Clinig Elderpark.
Yn ystod ei chyfnod fel cynghorydd a beili, bu’n gweithio’n ddi-baid ar ran pobl dosbarth gweithiol ei hetholaeth, gan wasanaethu ar nifer o bwyllgorau yn ymwneud â darparu gwasanaethau iechyd a lles, a hyd yn oed ar ôl iddi ymddeol yn 1931, cadwodd ei chysylltiad â’r maes hwn.
Yn 2011, comisiynodd Llyfrgell Merched Glasgow 21 o weithiau celf fel rhan o'u dathliadau pen-blwydd yn 21 oed. Dewisodd yr artist o Glasgow, Sharon Thomas, ddarlunio heneb ddamcaniaethol i Barbour yn Govan.[18] Fe wnaeth y gwaith ennyn diddordeb mewn cerflun go iawn o Barbour, a arweiniodd yn 2013 at greu Cymdeithas Cofiwch Mary Barbour, a ymgyrchodd dros gerflun. Llwyddodd yr ymgyrch i ennyn cefnogaeth gan Gyngor Dinas Glasgow, Nicola Sturgeon, Senedd yr Alban ac Alex Ferguson.[19]
Ym mis Medi 2015 roedd pum cerflunydd ar y rhestr fer i gynhyrchu maquette i gyfleu eu gweledigaeth o gerflun addas. Trefnwyd i arddangosiadau cyhoeddus o'r set o bum maquetet gael eu cynnal rhwng mis Tachwedd 2015 a mis Chwefror 2016, mewn gwahanol leoliadau gan ddechrau yn Sefydliad Pearce yn Govan. Dewiswyd y cerflunydd Andrew Brown i gerflunio’r cerflun ym mis Chwefror 2016.[20]
Er ei fod wedi sicrhau tua £56,000 trwy roddion cyhoeddus, tua hanner yr arian roedd angen i adeiladu’r cerflun, gwrthodwyd cais yr RMBA i Creative Scotland ym mis Tachwedd 2015 ar sail diffyg ymddangosiadol o ymgysylltu â’r gymuned.[21] Er mwyn cwrdd â'r diffyg a chodi'r arian i gwblhau'r prosiect, cynlluniodd yr RMBA sawl digwyddiad gan gynnwys cyngerdd gala i'w gynnal yn yr Old Fruitmarket yn Glasgow.[22]
Cwblhawyd y cerflun yn 2017 a’i ddadorchuddio ym mis Mawrth 2018.[23]
Mae Mary Barbour yn un o ddwy fenyw sydd wedi'u cynnwys ym murlun Clutha Bar, ac mae ei delwedd yn seiliedig ar y ffotograff ohoni yng ngwisg Bailie, c.1924. Bar Clutha oedd safle damwain hofrennydd Glasgow ar 29 Tachwedd 2013. Mae'r murlun, a gydlynir gan Art Pistol, yn cynnwys gwaith gan nifer o artistiaid gan gynnwys Bob McNamara, a elwir hefyd yn Rogue One, a Danny McDermott, a elwir yn EJEK.[24] Mae'r murlun yn talu gwrogaeth i hanes yr ardal, ac yn dangos amrywiaeth o bobl sydd wedi ymweld â'r lleoliad hwn.
Ym mis Tachwedd 2015, gosododd Cymdeithas Tai Linthouse blac glas yn 10 Hutton Drive, Linthouse, Glasgow i goffáu Mary Barbour a'i gweithredoedd, a gweithredoedd llawer o fenywod eraill, yn ystod Streiciau Rhent Glasgow yn 1915.[25][26] .
Mae testun y plac yn disgrifio Barbour fel "Diwygiwr Cymdeithasol, Arweinydd Streic Rhent, Crusader Heddwch Merched a Chynghorydd Menywod Arloesol", ac mae'n cynnwys dyfyniad o lyfr William Gallacher 'Revolt on the Clyde'.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.