From Wikipedia, the free encyclopedia
Actor a digrifwr Canadaidd-Americanaidd oedd Leslie William Nielsen, OC (11 Chwefror 1926 – 28 Tachwedd 2010). Ymddangosodd mewn dros gant o ffilmiau gan gynnwys Forbidden Planet, The Poseidon Adventure, Airplane!, cyfres The Naked Gun, a Dracula: Dead and Loving It, a thros 1500 o raglenni teledu.
Leslie Nielsen | |
---|---|
Ganwyd | Leslie William Nielsen 11 Chwefror 1926 Regina |
Bu farw | 28 Tachwedd 2010 o niwmonia Fort Lauderdale |
Dinasyddiaeth | Canada, Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor teledu, actor ffilm, digrifwr, cynhyrchydd ffilm, actor llais, actor, cynhyrchydd, swyddog milwrol, person milwrol |
Arddull | y Gorllewin gwyllt, ffilm gomedi |
Priod | Monica Boyar, Alisande Ullman |
Gwobr/au | Swyddog Urdd Canada, Gwobr 'Walk of Fame' Canada, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, ACTRA Award |
llofnod | |
Ganwyd Nielsen yn Regina, Saskatchewan.[1] Roedd ei fam, Mabel Elizabeth (née Davies), yn mewnfudwr o Gymru a'i dad, Ingvard Eversen Nielsen (1900–1975), a anwyd yn Nenmarc, yn gwnstabl gyda March-Heddlu Brenhinol Canada.[2][3][4] Roedd Nielsen yr ail o dri bachgen. Roedd yr hynaf, Erik Nielsen (1924–2008), yn Aelod hir-dymor o Senedd Canada, gweinidog cabinet a Dirprwy Prif Weinidog Canada rhwng 1984 a 1986.[5]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.