cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd, sgriptiwr ffilm ac actor a aned yn Ne Orange yn 1959 From Wikipedia, the free encyclopedia
Actor, cynhyrchydd, sgriptiwr a chyfarwyddwr o'r Unol Daleithiau yw Kevin Spacey Fowler (ganwyd 26 Gorffennaf 1959). Cafodd ei fagu yng Nghaliffornia, a dechreuodd ei yrfa ym myd actio yn ystod y 1980au. Ar ddechrau'r 1990au, derbyniodd feirniadaethau clodwiw am ei waith a derbyniodd ei Wobr yr Academi gyntaf am ei rôl gefnogol yn The Usual Suspects. Derbyniodd ei ail wobr am yr actor gorau yn y ffilm American Beauty (1999).
Kevin Spacey | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Kevin Spacey Fowler 26 Gorffennaf 1959 South Orange Village |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor ffilm, cyfarwyddwr theatr, cyfarwyddwr ffilm, actor teledu, cynhyrchydd ffilm, sgriptiwr, actor llais, actor cymeriad, actor llwyfan, cynhyrchydd teledu, actor, cyfarwyddwr |
Plaid Wleidyddol | plaid Ddemocrataidd |
Perthnasau | Daniel Fowler, Josh Sartain |
Gwobr/au | Gwobr Laurence Olivier, KBE, Gwobr yr Academi i'r Actor-gynorthwyydd Gorau, Gwobr yr Academi am Actor Gorau, Gwobr Tony am yr Actor Gorau mewn Drama, British Academy Television Award for Best International Programme, Golden Globe Award for Best Actor – Television Series Drama, Gwobr Tony, Gwobr Deledu MTV i'r Dyn Cas Gorau, Gwobr BAFTA am Actor Gorau mewn Prif Rhan, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Gwobr Arbennig Cymdeithas Theatr Llundain |
Gwefan | https://kevinspacey.com |
Rhwng 2003 a 2015 Spacey oedd cyfarwyddwr creadigol theatr yr Old Vic yn Llundain. Aeth ymlaen i serennu fel Frank Underwood yng nghyfres ddrama wleidyddol Netflix House of Cards.
Yn Hydref 2017, gwnaed cyhuddiad gan yr actor Anthony Rapp fod Spacey wedi ymddwyn mewn modd rywiol amhriodol ag ef pan oedd yn 14 oed.[1][2] Yn sgil cyhuddiad Rapp, daeth sawl dyn arall ymlaen i honni fod Spacey wedi eu aflonyddu neu ymosod arnynt yn rhywiol.[3][4] O ganlyniad, gohiriodd Netflix y gwaith cynhyrchu ar House of Cards am gyfnod cyn penderfynu terfynu ei gysylltiad a'r gyfres, a penderfynwyd peidio ryddhau ei ffilm Gore ar eu gwasanaeth.[5][6] Roedd Spacey wedi saethu golygfeydd fel J Paul Getty yn ffilm Ridley Scott All the Money in the World. Penderfynodd y cyfarwyddwr gastio Christopher Plummer gan ddisodli Spacey ac fe ail-saethwyd nifer o olygfeydd gyda'r actor newydd cyn ryddhau y ffilm.[7]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.