Roedd
Alan Julian Macbeth Tudor-Hart FRCGP FRCP (9 Mawrth 1927 – 1 Gorffennaf 2018), a oedd yn cael ei adnabod yn gyffredin fel Julian Tudor Hart, yn feddyg a oedd yn gweithio fel ymarferydd cyffredinol (meddyg teulu) yng Nghymru am 30 mlynedd. Roedd yn ymwneud ag ymchwil meddygol ac ysgrifennodd nifer o lyfrau ac erthyglau gwyddonol.
Cafodd Hart ei eni yn Llundain ar 9 Mawrth 1927, yn fab i Dr Alexander Tudor-Hart a Dr Alison Macbeth. Bu'n astudio meddygaeth ym Mhrifysgol Caergrawnt ac yn Llundain, gan raddio ym 1952.[1]
Roedd yn ddisgynnydd o'r dyn busnes Americanaidd Frederic Tudor ac o Ephraim Hart, Iddew o Bafaria a ddaeth yn fasnachwr amlwg yn Efrog Newydd, ac yn bartner busnes, yn ôl pob tebyg efo John Jacob Astor. Enw gwreiddiol y teulu oedd Hirz.[2][3][4]
Priododd ei dad-cu, yr artist o Ganada Percyval Hart, ei gyfnither pwylig ffrangig Éléonora Délia Julie Aimée Hart Kleczkowska, gan newid cyfenw'r teulu i Tudor-Hart. Roedd Kleczkowska yn ferch i'r diplomydd Michel Alexandre Cholewa, comte Kleczkowski (Michal Kleczkowski; 1818-1886) ac yn orwyres i Julie Sobieska, ddisgynnydd uniongyrchol o John III Sobieski, brenin gwlad Pwyl yn y 17g.[5][6]
Roedd yn aelod o Gymdeithas Sigerist, cymdeithas feddygol gomiwnyddol, o 1947 hyd 1955.
Ymunodd Hart â Phlaid Gomiwnyddol Prydain Fawr, a safodd yn aflwyddiannus fel ymgeisydd y blaid yn etholaeth Aberafan yn etholiadau cyffredinol 1964, 1966 a 1970.[7]
Bu'n gweithio am 30 mlynedd fel ymarferydd cyffredinol yng Nglyncorrwg, Gorllewin Morgannwg, lle fu Brian Gibbons, yn ddiweddarach gweinidog iechyd Cymru, yn un o'i bartneriaid. Roedd Dr Hart yn gysylltiedig ag ymchwil epidemiolegol, gyda Richard Doll ac Archie Cochrane. Bu'n eiriolwr angerddol dros y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a sosialaeth. Fe wasanaethodd fel Llywydd y Gymdeithas Iechyd Sosialaidd.[8]
Roedd yn Gymrawd o Goleg Brenhinol y meddygon teulu (RCGP) a Choleg Brenhinol y Ffisigwyr (RCP).[9]
Yn 2006, dyfarnwyd y Wobr Darganfod cyntaf i'w dyranu iddo[10] gan yr RCGP am fod yn "ymarferydd cyffredinol sydd wedi dal dychymyg cenedlaethau o feddygon teulu gyda'i ymchwil arloesol". Ei feddygfa yng Nglyncorrwg oedd y cyntaf yn y DU i gael ei gydnabod fel meddygfa ymchwil. Bu'r practis yn treialu sawl astudiaeth gan y Cyngor Ymchwil Meddygol. Ef oedd y meddyg teulu cyntaf i fesur pwysedd gwaed pob claf yn rheolaidd, ac fel canlyniad roedd yn gallu i leihau marwoldeb cynamserol mewn cleifion risg uchel yn ei bractis o 30%. Graham Watt, Athro Ymarfer Cyffredinol, Prifysgol Glasgow, a enwebodd Dr Tudor Hart ar gyfer y wobr. Meddai'r athro yn ei enwebiad: "Mae ei syniadau a'i esiampl yn treiddio trwy ymarfer cyffredinol modern ac yn parhau i fod ar flaen y gad o ran meddwl ac ymarfer ym maes gwella iechyd mewn gofal sylfaenol. Mae ei waith ar bwysedd gwaed uchel yn dangos mae ansawdd cofnodion, gwaith tîm ac ymchwil yw'r allwedd i wella iechyd. Ei ymrwymiad trwy'i oes i'r tasgau dyddiol o ymarfer cyffredinol bob amser wedi rhoi amlygrwydd a hygrededd i'w gwaith a'i farn ymysg cyd ymarferwyr cyffredinol. Mae Julian Tudor Hart wedi bod yn ac yn parhau i fod yn ysbrydoliaeth i ymarferwyr iechyd a'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu."
Ysgrifennodd nifer o lyfrau ac erthyglau gwyddonol. Mae ei lyfr olaf, The Political Economy of Health Care: A Clinical Perspective yn edrych ar sut gellid ail drefnu'r GIG i fod yn wasanaeth trugarog i bawb (yn hytrach nag un sy'n rhoi elw i rai) ac yn ddylanwad gwar ar y gymdeithas gyfan. Mae'r llyfr yn rhoi 'darlun mawr' ar gyfer myfyrwyr, academyddion, gweithwyr iechyd proffesiynol a defnyddwyr y GIG roedd Tudor Hart yn gobeithio y byddid yn eu hysbrydoli nhw i herio'r farn gyffredinol ynghylch sut y dylai'r GIG datblygu yn yr 21ain ganrif.
Mae ei weithiau eraill yn cynnwys llawer o erthyglau ar reoli pwysedd gwaed uchel ac ar drefnu gwasanaethau iechyd. Mae ei waith mwyaf dylanwadol The Inverse Care Law, a gyhoeddwyd yn y Lancet ym 1971 yn datgan: "Bod argaeledd gofal meddygol da yn tueddu i amrywio yn groes i'r angen ar gyfer y boblogaeth a wasanaethir. Mae gofal anghyfartal yn gweithredu yn fwyaf cyflawn lle mae gofal meddygol yn llwyr agored i rymoedd y farchnad, ac yn llai felly, lle bo amlygiad o'r fath yn cael ei leihau."
Erthyglau gwyddonol
- Hart, JT (1970). "Semi-continuous screening of a whole community for hypertension". Lancet 2: 223–6. doi:10.1016/s0140-6736(70)92582-1.
- Hart, JT (1971). "The Inverse Care Law". Lancet 1: 405–12. doi:10.1016/s0140-6736(71)92410-x. http://www.sochealth.co.uk/public-health-and-wellbeing/poverty-and-inequality/the-inverse-care-law/.
- Hart, JT (1974). "Milroy Lecture: the marriage of primary care and epidemiology: continuous anticipatory care of whole populations in a state medical service". Journal of the Royal College of Physicians of London 8: 299–314.
- Hart, JT (1975). "Management of high blood pressure in general practice. Butterworth Gold Medal essay". Journal of the Royal College of General Practitioners 25: 160–92.
- Hart, JT (1982). "The Black Report: a challenge to politicians". Lancet 1: 35–7. doi:10.1016/s0140-6736(82)92569-7.
- Hart, JT (1982). "Measurement of omission". British Medical Journal 284: 1686–9. doi:10.1136/bmj.284.6330.1686.
- Watt, GCM; Foy, CJW; Hart, JT (1983). "Comparison of blood pressure, sodium intake, and other variables in offspring with and without a family history of high blood pressure". Lancet 1: 1245–8. doi:10.1016/s0140-6736(83)92697-1.
- Watt, GCM; Foy, CJW; Hart, JT; Bingham, G; Edwards, C; Hart, M; Thomas, E; Walton, P (1985). "Dietary sodium and arterial blood pressure: evidence against genetic susceptibility". British Medical Journal 291: 1525–8. doi:10.1136/bmj.291.6508.1525.
- Hart, JT (1985). "Practice nurses: an underused resource". British Medical Journal 290: 1162–3. doi:10.1136/bmj.290.6476.1162.
- Hart, JT; Humphreys, C (1987). "Be your own coroner: an audit of 500 consecutive deaths in a general practice". British Medical Journal 294: 871–4. doi:10.1136/bmj.294.6576.871.
- Hart, JT (1990). "Primary medical care in Spain". British Journal of General Practice 40: 255–8. PMC 1371114. PMID 2117951. https://www.ncbi.nlm.nih.gov/pmc/articles/PMC1371114/pdf/brjgenprac00079-0037.pdf/?tool=pmcentrez.
- Hart, JT; Thomas, C; Gibbons, B; Edwards, C; Hart, M; Jones, J; Jones, M; Walton, P (1991). "Twenty-give years of audited screening in a socially deprived community". British Medical Journal 302: 1509–13.
- Hart JT. "Two paths for medical practice. The Lancet 1992 sept 26; 340
- Hart, JT (1992). "Rule of halves: implications of increasing diagnosis and reducing dropout for future workload and prescribing costs in primary care". British Journal of General Practice 42: 116–9.
- Hart, JT; Edwards, C; Haines, AP; Hart, M; Jones, J; Jones, M; Watt, GCM (1993). "High blood pressure screen-detected under 40: a general practice population followed for 21 years". British Medical Journal 306: 437–40. doi:10.1136/bmj.306.6875.437.
- Hart, JT (1995). "Clinical and economic consequences of patients as producers". Journal of Public Health Medicine 17: 383–6.
- Hart, JT; Dieppe, P (1996). "Caring effects". Lancet 347: 1606–8. doi:10.1016/s0140-6736(96)91083-1.
- Hart, JT (1998). "Our feet set on a new path entirely: To the transformation of primary care and partnership with patients (Editorial)". British Medical Journal 317: 1–2. JSTOR 25179698.
- Hart, JT (1998). "Thoughts from an old GP". Lancet 352: 51–2. doi:10.1016/s0140-6736(98)02430-1.
- Hart JT. The National Health Service as precursor for future society. 2002
Llyfrau
- Hart JT. The National Health Service: in England and Wales. Communist Party of Great Britain; 1970.
- Hart JT, Communist Party of Great Britain.The National Health Service in England and Wales: a marxist perspective. London Health Students Branch. Research and Study Group, Marxists in Medicine; 1971.
- Hypertension: community control of high blood pressure. First edition. 1980.
- Hart JT. An exchange of letters: hospital referrals. MSD Foundation; 1985.
- A new kind of doctor: the general practitioner’s part in the health of the community. London: Merlin Press; 1988.
- Hart JT, Stilwell B, Gray M. Prevention of coronary heart disease and stroke: a workbook for primary care teams. Faber; 1988.
- Hart JT, Pickering G. Hipertensión: su control en la comunidad. Doyma; 1989.
- Hypertension: community control of high blood pressure. Third edition. Oxford: Radcliffe Medical Press; 1993.
- Feasible Socialism: National Health Service past, present and future. London: Socialist Health Association; 1994
- Going for Gold: a new approach to primary medical care in the South Wales valleys. Swansea: Socialist Health Association; 1997.
- Going to the doctor. In: Cooter R, Pickstone J (eds). Medicine in the 20th Century. Amsterdam: Harwood Academic Publishers; 2000. p. 543-58.
- Hart JT, Savage W, Fahey T. High Blood Pressure at Your Fingertips: The Comprehensive and Medically Accurate Manual on How to Manage Your High Blood Pressure. McGraw-Hill Australia; 2003.
- What you need to know in nine pages. In: Fahey T, Murphy D, Hart JT. High Blood Pressure. Excerpt from High Blood Pressure at your fingertips. Third edition: London: Class Publishing; 2004.
- Hart JT. Storming the Citadel: from romantic fiction to effective reality. In: Michael PF, Webster C (eds). Health and Society in Twentieth Century Wales. University of Wales Press; 2006. p. 208-15.
- The Political Economy of Health Care: A clinical perspective. Bristol: Policy Press; 2006.
- Hart JT. La economía política de la sanidad. Una perspectiva clínica. Madrid: Ediciones GPS Madrid; 2009.
- Hart JT. The political economy of health care: Where the NHS came from and where it could lead (2 ed). Bristol: Policy Press; 2010.
TUDOR-HART (PDF). The Jacob Rader Marcus Center of the American Jewish Archives. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2015-11-24. Cyrchwyd 1 Gorffennaf 2018.