Nofelydd a llenor straeon byrion o Wrwgwái yn yr iaith Sbaeneg oedd Juan Carlos Onetti (1 Gorffennaf 190930 Mai 1994). Mae ei ffuglen yn portreadu dirywiad y gymuned drefol, a'i gymeriadau yn byw'n anhapus ac yn ynysig ac yn dianc o'r byd absẃrd drwy ffantasi, angau, a'r meddwl. Roedd yn un o ddatblygwyr realaeth hudol, ac ystyrir ei waith yn pontio'r traddodiad Naturiolaidd a'r dirfodaeth sy'n nodweddiadol o lên America Ladin yn yr 20g. Cafodd ei alw'n "sefydlwr nofel newydd America Ladin" gan Mario Vargas Llosa.[1]

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Juan Carlos Onetti
Thumb
GanwydJuan Carlos Onetti Borges Edit this on Wikidata
1 Gorffennaf 1909 Edit this on Wikidata
Montevideo Edit this on Wikidata
Bu farw30 Mai 1994 Edit this on Wikidata
o trawiad ar y galon Edit this on Wikidata
Madrid Edit this on Wikidata
DinasyddiaethWrwgwái, Sbaen Edit this on Wikidata
Galwedigaethllenor, newyddiadurwr, llyfrgellydd, nofelydd, awdur storiau byrion Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Miguel de Cervantes Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://onetti.net Edit this on Wikidata
Cau

Plentyndod, addysg, a gyrfa lenyddol gynnar (1909–43)

Ganwyd ym Montevideo, prifddinas Wrwgwái, ar 1 Gorffennaf 1909. Roedd ei dad yn gweithio i'r asiantaeth tollau, ac felly symudodd y teulu yn aml. Ni threuliodd fawr o amser yn yr ysgol, ond bu'n ddarllenwr brwd. Cafodd sawl swydd wahanol yn ystod ei ddauddegau, gan gynnwys gweinydd bwyty, porthor, ac arolygydd grawn.[2]

Aeth i Buenos Aires, prifddinas yr Ariannin, am gyfnod, ac yno dechreuodd ysgrifennu ar gyfer cylchgronau. Cyhoeddodd ei stori fer gyntaf yn y papur newydd La Prensa yn 1933. Cafodd gwaith fel newyddiadurwr gydag asiantaeth Reuters, yn Buenos Aires ac ym Montevideo.[2]

Llyfr cyntaf Onetti oedd y nofel fer El pozo (1939). Roedd yn un o gyd-sefydlwyr y cylchgrawn wythnosol adain-chwith Marcha, ac daeth yn olygydd newyddion yn 1940.[3]

Ei gyfnod yn yr Ariannin (1943–55)

Aeth yn ôl i Buenos Aires yn 1943, ac arhosodd yno nes 1955 tra'n gweithio fel newyddiadurwr. Cyhoeddodd ei nofel enwocaf, La vida breve, yn 1950. Lleolir y stori honno, a nifer o'i nofelau eraill, yn y ddinas ddychmygol Santa María.

Llwyddiant a charchar yn Wrwgwái (1955–75)

Dychwelodd i Montevideo yn 1955, a gweithiodd am gyfnod yn rheoli cwmni hysbysebu. Penodwyd yn gyfarwyddwr Gwasanaeth Llyfrgelloedd Wrwgwái yn 1957. Daeth yn olygydd Marcha yn y 1960au.

Ymhlith ei nofelau eraill mae Para una tumba sin nombre (1959), El astillero (1961), a Juntacadáveres (1964). Ymhlith ei gasgliadau o straeon byrion mae Un sueño realizado y otros cuentos (1951) ac El infierno tan temido (1962). His Obras completas (“Complete Works”) were published in 1970, and his Cuentos completos (“Complete Stories”) appeared in 1974.[4] Derbyniodd Wobr Iberia-America o Sefydliad William Faulkner yn 1963.[2]

Yn 1974, yn ystod oes yr unbennaeth sifil-filwrol yn Wrwgwái (1973–85), arestiwyd Onetti a'r mwyafrif o olygyddion eraill Marcha am roddi gwobr ffuglen y cylchgrawn i Nelson Marra am stori sy'n portreadu pennaeth yr heddlu fel arteithiwr.[5] Carcharwyd Onetti mewn gwallgofdy, a phan gafodd ei ryddhau penderfynodd i adael y wlad.[3]

Ei fywyd yn Sbaen (1975–94)

Symudodd Onetti i Fadrid, Sbaen, yn 1975, a datganodd na fyddai byth yn dychwelyd i Wrwgwái. Daeth yn ddinesydd Sbaenaidd yn 1978.[3] Derbyniodd Wobr Cervantes, yr anrhydedd uchaf ei bri yn llenyddiaeth Sbaeneg, yn 1980. Er i'r unbennaeth yn Wrwgwái ddod i ben yn 1983, gwrthododd Onetti ddychwelodd i'w famwlad. Rhoddwyd Gwobr Lenyddol Genedlaethol Wrwgwái iddo yn 1985, a bu'n rhaid i'r arlywydd deithio i Sbaen i roddi'r wobr i Onetti.[2]

Dioddefai o iselder ysbryd yn ystod ei flynyddoedd olaf, a threuliodd ei oriau yn y gwely ac yn feddw. Bu ei bedwaredd wraig, Dorothea "Dolly" Muhr, a'i fab Jorge yn gofalu amdano ar ddiwedd ei oes.[3] Cyhoeddwyd ei waith olaf, Cuando ya no importe yn 1993. Bu farw ym Madrid ar 30 Mai 1994, yn 84 oed, o drawiad ar y galon.[6]

Cyfeiriadau

Darllen pellach

Wikiwand in your browser!

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.

Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.