gweinidog gyda'r Annibynwyr, a bardd From Wikipedia, the free encyclopedia
Bardd Cymraeg a Gweinidog yr Efengyl oedd John Owen Williams; enw barddol Pedrog (20 Mai 1853 – 9 Gorffennaf 1932).
John Owen Williams | |
---|---|
Ffugenw | Pedrog |
Ganwyd | 21 Mai 1853 |
Bu farw | 9 Gorffennaf 1932 |
Galwedigaeth | bardd |
Ganed ef yn y Gatws, Madryn, yn yr hen Sir Gaernarfon. Collodd ei rieni pan oedd yn ieuanc, a magwyd ef gan ei fodryb yn Llanbedrog. Gadawodd yr ysgol yn 12 oed, a bu'n brentis garddwr, cyn symud i Lerpwl yn 1876 i weithio mewn masnachdy. Ordeiniwyd ef yn weinidog gyda'r Annibynwyr yn 1884, a bu'n weinidog eglwys Kensington, Lerpwl, ahyd 1930. Bu'n gadeirydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, ac yn olygydd Y Dysgedydd o 1922 hyd 1925.
Enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 1891, Llanelli 1895 a Lerpwl 1900. Bu'n Archdderwydd o 1928 hyd 1932.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.