Prifardd ac addysgwr o Gymro From Wikipedia, the free encyclopedia
Bardd ac addysgwr Cymreig oedd James Nicholas neu Jâms Niclas (19 Mawrth 1928 – 29 Medi 2013).[1]
James Nicholas | |
---|---|
Ganwyd | 19 Mawrth 1928 Tyddewi |
Bu farw | 29 Medi 2013 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, pennaeth |
Plant | Branwen Niclas |
Ganed ef yn Nhyddewi, Sir Benfro. Derbyniodd radd dosbarth cyntaf mewn mathemateg yng Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth yna bu'n athro mathemateg yn Ysgol Tŷ Tan Domen, y Bala ac yn Nhyddewi Penfro, cyn dod yn brifathro Ysgol y Preseli. Penodwyd ef yn Arolygydd Ysgolion yn 1975.
Daeth i'r amlwg fel bardd pan enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol Cymru y Fflint 1969. Bu'n Archdderwydd o 1981 hyd 1984, a bu'n Gofiadur am chwarter canrif gan orffen yn 2005. Bu hefyd yn Llywydd Undeb Bedyddwyr Cymru am gyfnod. Penodwyd ef hefyd yn Gymrawd rhai blynyddoedd yn ôl.
Bu farw ym Mangor yn 84 mlwydd oed gan adael gweddw, Hazel a dwy ferch, Branwen a Saran.[2]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.