Remove ads
cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd a sgriptiwr ffilm a aned yn Kapuskasing yn 1954 From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae James Francis Cameron (ganed 16 Awst 1954) yn gyfarwyddwr, cynhyrchydd a sgriptiwr o Ganada sydd wedi ennill Gwobr yr Academi. Ysgrifennodd a chynhyrchodd ffilmiau yn armywio o Terminator 2: Judgment Day i Titanic. O ran themâu, mae ffilmiau Cameron yn dueddol o astudio'r berthynas rhwng y ddynoliaeth a thechnoleg. Crëodd Cameron y gyfres o ffilmiau Terminator, gan weithio fel cyfarwyddwr a chyd-sgriptiwr y ffilmiau The Terminator a Terminator 2: Judgment Day. Yn ddiweddarach, ysgrifennodd a sgriptiodd y ffilm Titanic, a enillodd unarddeg o Wobrau'r Academi ac a wnaeth dros $1.8 biliwn yr Unol Daleithiau (UDA) yn fyd-eang. Ar hyn o bryd, mae'r ffilmiau a gyfarwyddwyd ganddo wedi codi tua $3biliwn (UDA), heb ystyried chwyddiant. Ar ôl cyfnod o gynhyrchu ffilmiau, trodd Cameron ei olygon at ffilmiau dogfen a datblygu'r System Gamera Uno 3-D ar y cyd. Ar hyn o bryd, mae'n bwriadu dychwelyd i gynhyrchu ffilmiau gyda'r ffilm wyddonias Avatar a fydd yn defnyddio'r dechnoleg System Gamera Uno 3-D. Disgwylir y bydd Avatar yn cael ei rhyddhau yn Rhagfyr 2009.
James Cameron | |
---|---|
Ganwyd | James Francis Cameron 16 Awst 1954 Kapuskasing |
Man preswyl | Malibu |
Dinasyddiaeth | Canada |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cynhyrchydd ffilm, cyfarwyddwr ffilm, sgriptiwr, golygydd ffilm, dyfeisiwr, cyfarwyddwr, dyngarwr, peiriannydd, actor, fforiwr, cynhyrchydd teledu, cynhyrchydd |
Arddull | ffilm llawn cyffro, ffilm wyddonias, ffilm arswyd wyddonias, ffilm arswyd, ffilm epig, ffilm ddrama, ffilm antur, ffilm gomedi |
Taldra | 188 centimetr |
Priod | Gale Anne Hurd, Suzy Amis, Kathryn Bigelow, Linda Hamilton, Unknown |
Gwobr/au | Gwobr yr Academi i'r Cyfarwyddwr Gorau, Gwobr Urdd Cyfarwyddwyr America, Gwobr yr Academi am y Golygu Ffilm Gorau, Gwobr yr Academi am Ffilm Orau, Gwobr Golden Globe am Gyfarwyddwr Gorau, Neuadd Enwogion California, Gwobr Nierenberg, Gwobr Hans Hass, Medal Hubbard, Gwobr 'Walk of Fame' Canada, Hall of Fame Ffantasi a llenyddiaeth Wyddonias, Golden Raspberry Award for Worst Screenplay, Cydymaith o Urdd Canada, Gwobr Golden Globe am Gyfarwyddwr Gorau, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Gwobr Hugo am y Cyflwyniad Dramatig Gorau, Dallas-Fort Worth Film Critics Association Award for Best Director |
Caiff Cameron ei adnabod am ei ffilmiau sydd yn aml yn hynod flaengar, creadigol ac yn llwyddiannus o safbwynt ariannol, yn ogystal â'i dymer ffrwydrol a'i bersonoliaeth dadleugar.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.