tref fwyaf Twrci From Wikipedia, the free encyclopedia
Istanbul (Twrceg: İstanbul, hefyd 'Stamboul; Cymraeg: Istanbwl)[1] yw dinas fwyaf Twrci a'i ganolfan ddiwyllianol a masnachol bwysicaf. Cyn i Atatürk ei symud i Ankara yn 1923, Istanbul oedd prifddinas y wlad. Yr hen enw arni oedd Caergystennin (Lladin: Constantinopolis, Groeg: Κωνσταντινούπολις, Twrceg: Konstantinopolis), cyn 1930, a Byzantium yng nghyfnod yr Ymerodraeth Fysantaidd.
Math | bwrdeistref fetropolitan Twrci, cyn-brifddinas, mega-ddinas, y ddinas fwyaf, dinas â phorthladd, dinas fawr, dinas hynafol |
---|---|
Poblogaeth | 15,462,452 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Ekrem İmamoğlu |
Cylchfa amser | UTC+03:00 |
Gefeilldref/i | Rio de Janeiro, Shimonoseki, Lahore, Johor Bahru, Jeddah, Cairo, Houston, Berlin, St Petersburg, Rabat, Mary, Barcelona, Dubai, Cwlen, Shanghai, Odesa, Amman, Sarajevo, Durrës, Almaty, Osh, Kyrgyzstan, Plovdiv, Constanța, Khartoum, Kazan’, Skopje, Damascus, Jakarta, Fenis, Busan, Bangkok, Beirut, Tabriz, Dinas Mecsico, Tiwnis, Guangzhou, Giza, Bengasi, N'Djamena, Tbilisi, Nicosia, Aktau |
Daearyddiaeth | |
Sir | Talaith Istanbul |
Gwlad | Twrci |
Arwynebedd | 5,343 km² |
Uwch y môr | 100 metr |
Gerllaw | Bosphorus, Môr Marmara, Y Môr Du, Hafan Euraid |
Cyfesurynnau | 41.01°N 28.9603°E |
Cod post | 34000–34990 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | mayor of Istanbul |
Pennaeth y Llywodraeth | Ekrem İmamoğlu |
Heddiw, mae tua 15,462,452 (2020)[2] o bobl yn bwy ynddi. Saif ar lannau Culfor Bosphorus ac mae'n amgau'r harbwr naturiol a adnabyddir fel y Corn Euraidd (Twrceg: Haliç, Saesneg Golden Horn). Mae rhan o'r ddinas ar dir Ewrop (Thrace) a'r gweddill yn Asia (Anatolia); hi yw'r unig ddinas fawr yn y byd sy'n sefyll ar ddau gyfandir. Mae hefyd yn brif ddinas Talaith Istanbul.
Istanbul yw'r unig ddinas yn hanes y byd sydd wedi bod yn brifddinas i dair ymerodraeth wahanol, sef yr Ymerodraeth Rufeinig (330–395), yr Ymerodraeth Fysantaidd (395–1453) a'r Ymerodraeth yr Otomaniaid (1453–1923). Dewisiwyd y ddinas yn Brifddinas Diwylliant Ewropeaidd am 2010. Ychwanegwyd rhannau hanesyddol yr hen ddinas, ar y lan Ewropeaidd, at Restr Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO yn 1985. Yn 2018, daeth dros 13.4 miliwn o ymwelwyr tramor i Istanbul gan wneud y ddinas yn bumed gyrchfan twristiaid mwyaf poblogaidd y byd.[3]
Dywedir bod y gair 'Istanbul' yn deillio o'r ymadrodd Groeg Canoloesol "εἰς τὴν Πόλιν", sy'n golygu "i'r ddinas".[4] Adlewyrchwyd pwysigrwydd Caergystennin yn y byd Otomanaidd hefyd gan ei lysenw "Der Saadet" sy'n golygu'r "y porth i Ffyniant" yn eu hiaith nhw.[5].
Mae arteffactau Oes Newydd y Cerrig (y Neolithig), a ddatgelwyd gan archaeolegwyr ar ddechrau'r 21g, yn dangos bod penrhyn hanesyddol Istanbul wedi'i wladychu mor bell yn ôl â'r 6ed mileniwm CC.[6] Roedd hyn yn bwysig yn lledaeniad y Chwyldro Neolithig o'r Dwyrain Agos i Ewrop, am bron i fileniwm cyn cael ei boddi gan lefelau dŵr yn codi.[7][8][9] Daw'r anheddiad dynol cyntaf ar yr ochr Asiaidd, sef y 'Twmpath Fikirtepe', o'r cyfnod Oes Efydd, gydag arteffactau'n dyddio o 5500 i 3500 CC. Ar yr ochr Ewropeaidd, ger pwynt y penrhyn (Sarayburnu), roedd anheddiad Thraciaaidd yn gynnar yn y mileniwm 1af CC.[10][11]
Mae hanes y ddinas, fel y cyfryw, yn cychwyn tua 660 BCE, pan daeth ymsefydlwyr Groegaidd o Megara gan sefydlu Byzantium ar ochr Ewropeaidd y Bosphorus.[12][13] Adeiladodd yr ymsefydlwyr acropolis ger yr Corn Aur ar safle aneddiadau Thraciaidd cynnar, gan danio economi'r ddinas eginol. Profodd y ddinas gyfnod o gael ei rheoli gan Bersia ar droad y 5g CC, ond fe'i hailgipiwyd hi gan y Groegiaid yn ystod y Rhyfeloedd Greco-Persia.[14][15]
Yna parhaodd Byzantium fel rhan o Gynghrair Athenia a'i olynydd, Ail Gynghrair Athenia, cyn ennill annibyniaeth yn 355 CC.[16] Bu'n gysylltiedig â'r Rhufeiniaid am gyfnod hir, a daeth Byzantium yn swyddogol yn rhan o'r Ymerodraeth Rufeinig yn 73 OC.[17]
Costiodd penderfyniad Byzantium i ochri gyda’r swyddog milwrol Rhufeinig Pescennius Niger yn erbyn yr Ymerawdwr Septimius Severus yn ddrud; erbyn i'r ddinas ildio ar ddiwedd 195 OC, roedd dwy flynedd o warchae wedi gadael y ddinas wedi ei anrheithio.[18] Bum mlynedd yn ddiweddarach, dechreuodd Severus ailadeiladu Byzantium, ac adenillodd y ddinas - ac, yn ôl rhai cyfrifon, rhagorodd - ar ei gwychder blaenorol.[19]
Mae gan Istanbul hinsawdd is-drofannol laith (Dosbarthiad hinsawdd Köppen: Cfa), gyda 808 mm o wlybaniaeth y flwyddyn.[20][21][22]
Yn gyffredinol, mae'r hafau yn boeth ac yn glos gyda thymheredd cyfartalog o 26–28 °C a thymheredd isaf o 16–19 °C.[22] Fodd bynnag, mae'r tymheredd yn pasio 32 °C am tua 5 diwrnod bob haf.[22] Ond nid haf yw'r graddau o difrifol a hir y gorllewin a'r de Twrci.
Tuedda'r gaeafau i fod yn oer, gyda thymheredd uchaf cyfartalog o 8–10 °C a thymheredd isaf o 3–5 °C, ond gall y tymheredd ostwng cymaint a'r −5 °C am rai dyddiau.[22] Weithiau gall y tymheredd godi i hyd at y 15 °C yn ystod y gaeaf.[22] Eira a rhew yn gyffredin yn y gaeaf. Ar gyfartaledd ceir yno 19 o ddiwrnodau o eira yn flynyddol, ac ar gyfartaledd ceir yno 21 o ddiwrnodau o rhew yn flynyddol.[22]
Cyfnewidiol yw'r tywydd yn y gwanwyn a'r hydref, a gall fod yn oer neu'n gynnes, er fod y cyfnodau hyn yn bleserus gan amlaf oherwydd y lleithder isel.[22]
Mis | Ion | Chwe | Maw | Ebr | Mai | Meh | Gor | Aws | Med | Hyd | Tach | Rhag | Cyfartaledd Blwyddyn |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Uchafbwynt cyfartalog °C | 8.5 | 9.0 | 10.8 | 15.4 | 20.0 | 24.5 | 26.5 | 26.7 | 23.6 | 19.1 | 14.7 | 10.8 | 17.47 |
Cyfartaledd °C | 5.6 | 5.7 | 7.0 | 11.1 | 15.7 | 20.4 | 22.8 | 23.0 | 19.7 | 15.6 | 11.4 | 8.0 | 13.83 |
Isafbwynt cyfartalog °C | 3.2 | 3.1 | 4.2 | 7.7 | 12.1 | 16.5 | 19.5 | 20.0 | 16.8 | 13.0 | 8.9 | 5.5 | 10.88 |
Dyodiad mm | 105.3 | 77.3 | 71.8 | 44.9 | 34.1 | 34.0 | 31.6 | 39.8 | 57.9 | 87.7 | 101.3 | 122.6 | 808.3 (Cyfanswm dyodiad) |
Ffynonellau:Weatherbase – Istanbul Swyddfa Feteorolegol Twrceg. |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.