From Wikipedia, the free encyclopedia
Rhywogaeth o hominin a ddifodwyd yw Homo naledi a ddarganfuwyd yn 2013 yn 'Ogof y Seren sy'n Codi', De Affrica; fe'i haseiniwyd i'r genws Homo.[2] Cyhoeddwyd gwybodaeth am y darganfyddiad mewn cyhoeddiad academaidd yn 2015 a chludwyd dros 1,550 o esgyrn 15 unigolyn o Ogof y 'Rising Star' yn Ne Affrica i'r wyneb mewn ymchwiliad dan arweiniad yr archaeolegydd Lee Berger o Johannesburg.[3] Erbyn heddiw (2023) credir fod yr esgyrn yn 335,000–236,000 o flynyddoedd oed, felly roedd y rhywogaeth hon yn byw yn y Pleistosen Canol (neu'r Chibanian). Er i gymaint o esgyrn ddo i'r fei, mae union ddosbarthiad o ran rhywogaethau Homo eraill ychydig yn aneglur.[4]
Homo naledi Amrediad amseryddol: 0.335–0.236 Miliwn o fl. CP [1] | |
---|---|
Enghreifftiau o rai o'r esgyrn | |
Lleoliad y darganfyddiad yn Ne Affrica | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Deudroedolyn (Primates) |
Teulu: | Hominidae |
Genws: | Homo |
Rhywogaeth: | †H. naledi |
Enw deuenwol | |
Homo naledi Lee R. Berger et al., 2015 | |
Yn 2017 cafwyd adroddiad gan Hawks et al. (2017) fod o leiaf 3 unigolyn arall (dau oedolyn a phlentyn) wedi'u canfod mewn ail siambar, a elwir yn Lesedi ("golau" yn yr iaith Sotho-Tswana).[5][6]
Ceir tystiolaeth i'r cyrff gael eu taflu neu iddynt ddisgyn i fewn i'r ogof tua'r un amser ag y buont farw. Ceir peth tystiolaeth iddynt gael eu gosod ymhen pellaf yr ogof yn fwriadol, mewn defod, sy'n golygu wedyn nad Homo sapiens yn unig oedd yn cael gwared a'u meirw mewn dull arbennig.[6][7][8]
Disgrifiwyd Homo naledi yn ffurfiol ym Medi 2015 gan 47 o awduron a gynigiodd fod yr esgyrn yn perthyn i rywogaeth newydd sbon a rhoddwyd dwy filiwn o flynyddoedd fel oedran, cyn gwneud unrhyw arbrofion.[9] Yn dilyn technegau dyddio amrywiol cyhoeddwyd mai rhwng 335,000 a 236,000 o flynyddoedd CP y bu'r Homo naledi yn byw.[1]
Mae gan y rhywogaeth gorff tebyg o ran mas i berson bychan ei daldra, gydag ymennydd llai, ac sy'n debycach i'r Australopithecus, a phenglog tebyg o ran siâp i rywogaeth cynnar o Homo. Mae anatomi'r sgerbwd yn gyfuniad o nodweddion australopitheciaid a'r homininiaid cynnar.
Daw'r gair 'Dinaledi', sef yr enw ar y prif siambr lle darganfuwyd yr esgyrn o'r iaith leol, frodorol, sef yr iaith Sotho (a elwir hefyd yn Sesotho); ei ystyr yw 'siambr o sêr'. Bathwyd yr enw hwn a'r enw Homo naledi yn ystod hirdaith 2013.[10]
Ar 13 Medi 2013, tra'n archwilio'r system hon o ogofâu, daeth Rick Hunter a Steven Tucker ar draws rhan nad oedd wedi'i harchwilio oherwydd ei bod mor gyfyng. Roedd y siafft hon yn fertigol, o fath 'simnai' ac yn mesur 12 metr o hyd, gyda lled cyfartalog o 20 cm yn unig.[11]
Roedd Tucker a Hunter wedi clywed am archaeolegydd enwog o Johannesburg, Lee Berger, a oedd "yn chwilio am esgyrn" ac aethant ato gyda lluniau o'r hyn roeddent wedi ei ddarganfod. Trefnodd Berger grŵp o archaeolegwyr i archwilio'r ogof a chywain yr esgyrn i'r wyneb ble roedd tîm arall mewn pebyll yn eu harchwilio a'u dosbarthu. Erbyn Medi 2015 roedd tua 1,550 o ffosiliau wedi'u codi i'r wyneb a rhyddhawyd dau bapur academaidd am y canfyddiadau cychwynnol.[9]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.