Harold Lloyd

cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd, sgriptiwr ffilm ac actor a aned yn Burchard yn 1893 From Wikipedia, the free encyclopedia

Harold Lloyd

Cyfarwyddwr, actor a seren ffilm Americanaidd o dras Gymreig oedd Harold Clayton Lloyd (20 Ebrill 18938 Mawrth 1971). Mae'n fwyaf enwog am ei stynts mewn ffilmiau mud e.e. Safety Last! (1923) ble mae'n hongiad o gloc enfawr.[1][2]

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Harold Lloyd
Thumb
GanwydHarold Clayton Lloyd 
20 Ebrill 1893 
Burchard 
Bu farw8 Mawrth 1971 
o canser y brostad 
Beverly Hills 
DinasyddiaethUnol Daleithiau America 
Alma mater
  • San Diego High School
  • East High School 
Galwedigaethactor ffilm, actor, cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd ffilm, sgriptiwr, ffotograffydd, perfformiwr stỳnt, digrifwr, cynhyrchydd gweithredol, ysgrifennwr, arlunydd, cyfarwyddwr 
Blodeuodd1900 
Arddullffilm gomedi, ffilm fud, ffilm antur, ffilm ddrama, ffilm annibynnol, ffilm llawn cyffro, ffilm chwaraeon, ffilm gyffro, y Gorllewin gwyllt, ffilm ramantus 
Prif ddylanwadCharles Chaplin 
Taldra178 centimetr 
Plaid Wleidyddolplaid Weriniaethol 
PriodMildred Davis 
PlantGloria Lloyd, Harold Lloyd Jr. 
Gwobr/auGwobr Anrhydeddus yr Academi, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood 
Gwefanhttp://www.haroldlloyd.com/ 
Cau
Thumb
Portread gan Alfred Cheney Johnston (1921)
Thumb
Hysbyseb (1919)

Cafodd ei eni yn Burchard, Nebraska, yn fab i J. Darsie "Foxy" Lloyd. Priododd yr actores Mildred Davis yn 1923.

Actiodd wrth ochr Charlie Chaplin a Buster Keaton, yn un o actorion mwyaf poblogaidd ei gyfnod, ac roedd ei ddylanwad ar ffilmiau mud y cyfnod yn enfawr. Gwnaeth oddeutu 200 o ffilmiau comedi rhwng 1914 a 1947 ac efallai mai'r mwyaf poblogaidd oedd y cymeriad "Glasses" a chwaraeodd,[3][4] cymeriad llwyddiannus, ymarferol a oedd a'i fus ar byls yr Unol Daleithiau yn y 1920au.

Er nad oedd ei ffilmiau mor llwyddiannus a rhai Chaplin yn fasnachol, roedd llawer mwy ohonynt yn dod allan o'i stabl. Ymddangosodd 12 ffilm lawn yn y 1920au, gyda dim ond 4 yn gan Chaplin. Roedd cyfanswm incwm ei ffilmiau hefyd yn uwch: $15.7 miliwn o'i gymharu â $10.5 m o incwm ffilmiau Chaplin.

Ffilmiau

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.