From Wikipedia, the free encyclopedia
Un o diriogaethau tramor Unol Daleithiau America yw Gwam neu Ynys Gwam (Saesneg: Guam; Chamorreg: Guåhån). Saif yn rhan orllewinol y Cefnfor Tawel. Y brifddinas yw Hagåtña (gynt Agana), ac roedd y boblogaeth yn 2000 yn 154,805. Gwam yw'r fwyaf a'r fwyaf deheuol o Ynysoedd Mariana.
Gwam Guåhan (Tsiamoreg) | |
Arwyddair | Tånó I' Man CHamoru |
---|---|
Math | ardal ynysol, ynys, tiriogaeth anghorfforedig yr Unol Daleithiau, tiriogaeth yr Unol Daleithiau, gwlad mewn chwaraeon |
Enwyd ar ôl | Unknown |
Prifddinas | Hagåtña |
Poblogaeth | 153,836 |
Sefydlwyd | 21 Gorffennaf 1944 (Annibyniaeth oddi wrth Japan) |
Anthem | Stand Ye Guamanians |
Pennaeth llywodraeth | Lou Leon Guerrero |
Cylchfa amser | UTC+10:00 |
Gefeilldref/i | |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Saesneg, Tsiamoreg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Micronesia, ystyrir gan yr UE fel gwlad sy'n hafan i bobl sy'n osgoi trethi, US-UM |
Sir | Unol Daleithiau America |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Arwynebedd | 544 km² |
Gerllaw | Y Cefnfor Tawel |
Yn ffinio gyda | Ynysoedd Gogledd Mariana, Taleithiau Ffederal Micronesia |
Cyfesurynnau | 13.5°N 144.8°E |
US-GU | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Llywodraeth Gwam |
Corff deddfwriaethol | Deddfwrfa Gwam |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Llywodraethwr Gwam |
Pennaeth y Llywodraeth | Lou Leon Guerrero |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $6,123 million |
Arian | doler yr Unol Daleithiau |
Cyfartaledd plant | 2.386 |
Cyrhaeddodd y boblogaeth frodorol, sef y Chamorros, yr ynys tua 4,000 o flynyddoedd yn ôl. Cyrhaeddodd ymsefydlwyr Sbaenig, yn cynnwys y cenhadwr Catholig Padre San Vitores yn 1668. Bu'r ynys yn eiddo Sbaen hyd 1898, pan gipiwyd hi gan yr Unol Daleithiau. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cipiwyd yr ynys gan luoedd arfog Japan yn Rhagfyr 1941, a'i hadfeddiannu gan yr Unol Daleithiau ym mis Gorffennaf 1944. Heddiw, ceir gwersylloedd milwrol yno, ac mae twristiaeth, o Japan yn bennaf, yn bwysig.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.