Gwaith Mynyddog (Cyfres y Fil)
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Gwaith Mynyddog Cyfrol 1 a Gwaith Mynyddog Cyfrol 2 yn ddwy gyfrol o gerddi gan Richard Davies (Mynyddog)[1] a olygwyd gan D Emlyn Evans[2] ac a gyhoeddwyd gan Owen Morgan Edwards fel rhan o'i Gyfres y Fil ym 1914[3] a 1915. Bu farw Emlyn Evans cyn gorffen golygu Cyfrol 2, felly Edwards ei hun a orffennodd y gwaith.
Richard Davies (Mynyddog) (10 Ionawr 1833 – 14 Gorffennaf 1877) oedd yn un o feirdd mwyaf poblogaidd Cymru yn ystod diwedd y Cyfnod Fictoraidd. Cyhoeddodd 3 llyfr o gerddi yn ystod ei oes:
Roedd pedwerydd llyfr wedi ei baratoi i'r wasg ar adeg ei farwolaeth a gyhoeddwyd ym 1882
Mae'r rhagymadrodd i'r gyfrol gyntaf o Waith Mynyddog yng Nghyfres y Fil yn dweud bod O M Edwards wedi bod yn siarad â chwaer Fynyddog. Rhoddodd hi wybod iddo fod "lliaws mawr o'i ganeuon gorau, y caneuon olaf ganodd, heb eu cyhoeddi, yn eu mysg ganeuon glywswn i ef yn ganu. Ar fy nghais, paratôdd y diweddar D. Emlyn Evans y gyfrol hon i'r wasg."[4] Wedi cael gafael ar swp o "ganeuon coll" gan y chwaer, aeth O M i holi Mrs A E Davies, gweddw Fynyddog i holi os oedd ychwaneg yn ei meddiant hi a chael gwybod bod. Caneuon yng ngofal y chwaer sydd yng Nghyfrol 1 a rhai yng ngofal y weddw sydd yn gyfrol 2.[5] Doedd Mrs Davies ddim mor awyddus a'i chwaer yng nghyfraith i gyhoeddi'r cerddi oedd ganddi hi gan ei bod yn gwybod eu bod yn ganeuon yn rhai penderfynodd y bardd i beidio â chynnwys yn ei lyfrau.
Mae'r casgliadau yn cynnwys 154 o gerddi (77 yr un yn y ddwy gyfrol) mewn amrywiol arddulliau – englynion, cerddi doniol, emynau, cerddi dwys, cerddi i'w hadrodd, cerddi i'w canu. Caneuon gwladgarol Cymreig a chaneuon o glod i Brydain, Yr Ymerodraeth a'r Frenhines Victoria.
Mae sganiau a thrawsgrifiadau o'r ddwy gyfrol ar Wicidestun.
Ysgrifennwyd y llyfrau cyn cyhoeddi ''Orgraff Yr Iaith Gymraeg'' ym 1929, mae sillafiad teitlau'r cerddi fel y maent yn orgraff y cyhoeddwr
Bydd rhoi clec ar y ddolen yn mynd at drawsgrifiad o'r gerdd ar Wicidestun
Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
Bydd rhoi clec ar y ddolen yn mynd at drawsgrifiad o'r gerdd ar Wicidestun
Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
Yn ogystal â'r cerddi mae'r gyfrolau yn cynnwys 11 llun, rhai yn ymwneud â bywyd Mynyddog, lluniau ohono ef a'i gartrefi, ac eraill i ddarlunio rhai o'r cerddi ee llun o ofaint i ddarlunio cerdd Y gof. Mae'r cyfan o'r lluniau yn rai o ardal Llanbrynmair lle fu'r bardd yn fyw. John Thomas, Galeri Cambrian, Lerpwl, tynnodd y rhan fwyaf o'r lluniau.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.