From Wikipedia, the free encyclopedia
Cyfres o lyfrau Cymraeg a gyhoeddwyd ac a olygwyd gan Owen Morgan Edwards rhwng 1901 a 1916 yw Cyfres y Fil. Fe'i henwir felly am fod y golygydd wedi galw am fil o danysgrifwyr i'r gyfres yn ei gylchgrawn Cymru. Bwriad O. M. Edwards oedd cael cyfres o argraffiadau safonol, deniadol a rhad o waith prif lenorion y Gymraeg. Maent yn llyfrau bychain unffurf gyda chloriau glas tywyll, wedi'u hargraffu yn gain. Cafwyd 37 o gyfrolau (yn cynnwys geiriadur Cymraeg) cyn i'r gyfres fethu ym 1916 oherwydd diffyg gwerthiant. Cawsant eu cyhoeddi gan y golygydd yn Llanuwchllyn, Meirionnydd. Maent yn debyg iawn o ran diwyg i'r gyfres Llyfrau ab Owen, a chymysgir rhyngddynt weithiau.
Cynwyswyd yn y gyfres gwaith llenorion fel Dafydd ap Gwilym (1901), Iolo Goch (1915), Goronwy Owen (dwy gyfrol, 1902), Iolo Morgannwg (1913) ac nifer o awduron eraill.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.