drwm a genre cerddorol Afrikaans, De Affrica From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Goema, (ysgrifennir hefyd fel Ghomma a Ghoema; ynganer [ˈɡuma]) yn fath o ddrwm llaw a ddefnyddiwyd gan gerddorion y Cape Minstrel Carnival a cherddoriaeth Cape Jazz yn Kaapstad, De Affrica. Mae'r gair hefyd wedi dod i ddisgrifio genre o gerddoriaeth sy'n un o dylanwadu ar Cape Jazz.[1]
Math | offeryn cerdd |
---|
Ymysg y cerddorion Goema nodweddiadol mae Mac McKenzie, Hilton Schilder, Errol Dyers a Alex van Heerden.[2]
Mae'r drwm ghoema gydag agoriad ar y gwaelod. Credir iddo gyrraedd De Affrica gan gaethwasion Malaya o ynysoedd y Dwyrain Pell oedd yn berchen i'r Iseldiroedd a chwmni Vereenigde Oost-Indische Compagnie a wladychodd tiriogaeth De Affrica yn yr 18g. Roedd y drymiau a ddefnyddiwyd gan y brodorion San wedi eu cau ar y gwaelod. Defnyddiwyd unrhyw ddefnydd siap tiwb i wneud y drymiau syml ghoema yn wreiddiol.
Clywir y gerddoriaeth ar y cyfryngau a chysylltir hi â Gŵyl yr Ail Dydd Calan (Tweede Nuwe jaar) a dathliadau y Kaapse Klopse.
Mae arddull ghoema yn hybrid sy'n cynnwys elfennau o wahanol ddiwylliannau a welir yn Kaapstad gan gynnwys; dawnsiau gwerin Afrikaaner, tonau emynol a harmoniau wedi eu cyfeilio i sain banjo ffyrnig a offerynnau chwyth cyrn. Clywir hyn mewn caneuon megis Daar kom die Alibama [3] a sawl un arall [4] a Ceir 'ebychiad' syncopatig nodweddiadol yn y gerddoriaeth sy'n rhoi toriad yn y curiad a rhoi ymdeimlad o symud neu hwgwd.[5] Cysylltir y gerddoriaeth gyda chymuned y Kaapse Kleurling ('Cape Coloured') Mwslemaidd a Christonogol Tref y Penrhyn.
Mae'r gerddoriaeth hefyd wedi dylanwadu ar arddull jazz De Affrica fel clywir mewn canueon megis Goema Goema gan Mac McKenzie & the Goema Captains of Cape Town.[6]
Mae'r term hefyd wedi ei mabwysiadu ar gyfer y Ghoema-musiektoekennings (Gwobrau Cerddoriaeth Ghoma)[7] sef y prif wobr ar gyfer cerddoriaeth a cherddorion yn yr iaith Afrikaans, beth bynnag eu harddull o gerddoriaeth. Sefydlwyd y gwobrau yn 2012 a darlledir ar wasanaeth deledu lloeren Afrikaans, KykeNet.[8]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.