From Wikipedia, the free encyclopedia
Pryf gydag adenydd lliwgar sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw glöyn byw (hefyd: pili-pala, iâr fach yr haf neu blyfyn bach yr haf). Wedi deor o'i ŵy mae glöyn byw yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac yn morffio'n chwiler cyn dod allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau gydag adenydd.
Gloÿnnod byw | |
---|---|
Llwydfelyn gwelw | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | |
Urdd: | Lepidoptera (rhan) |
Teuluoedd | |
Uwchdeulu Hedyloidea |
Mae'n perthyn i'r dosbarth Lepidoptera. Yn aml, mae ganddynt adenydd liiwgar, cymharol fawr. Yn y grŵp hwn ceir gwir loynnod byw (neu uwchdeulu / superfamily, sef Papilionoidea), y sgipwyr (uwchdeulu Hesperioidea) a'r gwyfyn-loynnod (uwchdeulu Hedyloidea). prin iawn y ceir ffosiliau, gan fod eu hadennydd mor denau a bregus, ond mae'r hyna'n mynd yn ôl i 40–50 miliwn o flynyddoedd CP.
Mae rhai gloÿnnod yn fudol h.y. yn teithio filoedd o filltiroedd dros yr haf; er enghraifft, Glöyn y llaethlys. Oherwydd eu gallu i forffio o un ffurf i ffurf arall, ac oherwydd harddwch eu lliw a'i ehediad, maent yn ddelwedd boblogaidd mewn llenyddiaeth. Ystyrir rhai ohonyn nhw'n bla gan eu bod yn bwyta llysiau ar gyfer y bwrdd bwyd, dro arall, mae'r lindys yn lladd rhywogaethau sy'n blâu.
Mewn ymchwiliad gan NERC (Natural Environment Research Council) yn 2004 datgelwyd fod gostyngiad o 71% wedi bod yn niferoedd y gloÿnnod byw yng ngwledydd Prydain rhwng 1983 a 2003.[1]
Cofnodwyd y gair yn gyntaf yng Ngeiriadur Syr Thomas Wiliems Thesaurus Linguae Latinae Cambrobritannicae (1604-7). Y gair cyn hynny oedd ‘glöyn Duw’, fel a geir yng ngwaith Dafydd ap Gwilym yn y 14eg ganrif.
Un o brif diriogaethau'r glöyn byw yng Ngogledd Cymru ydy Craig Euarth: rhwng Craig-adwy-wynt a Phwllglas 4 a hanner cilometr i'r de o Ruthun (Rhif cyfeirnod map OS Map: SS 122 542) lle gwelir 32 allan o'r 34 mathau sydd yng ngogledd Cymru.[2] Tiriogaeth pwysig arall yw 'Caeau Ffos Fach' ger Cross Hands, Sir Gaerfyrddin.
Mae rhywogaethau'r glöyn byw a'r gwyfyn a welir yng Nghymru yn cynnwys:
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.