From Wikipedia, the free encyclopedia
Glöyn byw sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw glesyn serennog, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy gleision serennog; yr enw Saesneg yw Silver-studded Blue, a'r enw gwyddonol yw Plebejus argus.[1][2] Yng ngwledydd Prydain mae hi bellach yn eitha prin gan fod ei chynefin wedi cael ei ddifa dros y blynyddoedd.
Glesyn serennog (Plebejus argus) | |
---|---|
Glesyn serennog, Mynydd Marian, Cymru | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | |
Urdd: | Lepidoptera |
Teulu: | Lycaenidae |
Genws: | Plebejus |
Rhywogaeth: | P. argus |
Enw deuenwol | |
Plebejus argus (Linnaeus, 1758) | |
Mae'r sêr yn enw i'w gweld oherwydd y smotiau arian-metalig glas sydd i'w canfod ar isadain ei adenydd ôl. Lliw'r fenyw ydy brown tywyll gyda smotiau oren ar ymylon ei hadenydd, gydag ychydig o las arni mewn rhai ardaloedd.
Ei hoff gynefin yw rhostiroedd a gweundiroedd, yn enwedig caeau ar dir calchog a thywynnau glan y môr. Ar wahân i dde Lloegr, fe'i ceir yn Norfolk, Suffolk, Dyfnaint, Cernyw a Chymru. Mae'n eithaf llewyrchus yn Ewrop ac Asia - hyd at Japan.
Ei hoff fwydydd yw Grug Calluna vulgaris, Erica cinerea, Erica tetralix a gwahanol fath o eithin: Ulex. Ar weundiroedd: Lotus corniculatus, Helianthemum nummularium, Hippocrepis comosa a Teim Thymus serpyllum.
Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.
Wedi deor o'i ŵy mae'r glesyn serennog yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.