Glan Dde Wcráin
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
From Wikipedia, the free encyclopedia
Rhanbarth hanesyddol yn Wcráin oedd Glan Dde Wcráin (Wcreineg: Правобережна Україна trawslythreniad: Pravoberezhna Ukrayina, Rwseg: Правобережная Украина Pravoberezhnaya Ukraina, Pwyleg: Pravoberezhnaya Ukraina) a leolwyd i orllewin canol Afon Dnieper. Ffiniodd â'r Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd (yn ddiweddarach Ymerodraeth Rwsia) i'r gogledd a'r gorllewin, Sich Zaporizhzhia i'r de-ddwyrain, Yedisan a Moldafia (dan dra-arglwyddiaeth yr Ymerodraeth Otomanaidd) i'r de-orllewin, a Glan Chwith Wcráin ar ochr draw'r Dnieper i'r dwyrain. Bu ei diriogaeth yn cyfateb i oblastau Volyn, Rivne, Zhytomyr, Vinnytsia a Kirovohrad, gorllewin Oblast Kyiv a glan orllewinol dinas Kyiv, a rhannau o oblastau Cherkasy a Ternopil yn Wcráin heddiw.[1]
Map o Lan Dde Wcráin (melyn) o fewn ffiniau presennol Wcráin (gwyn). | |
Math | Ukrainian historical regions |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Rhanbarth y Dnieper (Wcráin) |
Gwlad | Wcráin |
Gerllaw | Afon Dnieper |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.