From Wikipedia, the free encyclopedia
Nofelydd Americanaidd oedd Gertrude Stein (3 Chwefror 1874 - 27 Gorffennaf 1946) sydd hefyd yn cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel bardd, casglwr celf, perchennog salon, hunangofiannydd a libretydd.[1][2][3][4][5][6][7] Ymhlith y gwaith pwysig a nodedig yr ysgrifennodd y mae: Three Lives, Tender buttons: objects, food, rooms, The Making of Americans, Four Saints in Three Acts, The Autobiography of Alice B. Toklas, Everybody's Autobiography a Doctor Faustus Lights the Lights.[8]
Gertrude Stein | |
---|---|
Ganwyd | 3 Chwefror 1874 Allegheny |
Bu farw | 27 Gorffennaf 1946 o canser y stumog Neuilly-sur-Seine |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | ysgrifennwr, bardd, casglwr celf, perchennog salon, hunangofiannydd, libretydd, dramodydd, awdur, casglwr |
Adnabyddus am | Three Lives, Tender buttons: objects, food, rooms, The Making of Americans, Four Saints in Three Acts, The Autobiography of Alice B. Toklas, Everybody's Autobiography, Doctor Faustus Lights the Lights |
Mudiad | llenyddiaeth fodernaidd, moderniaeth |
Partner | Alice B. Toklas |
llofnod | |
Fe'i ganed yn Allegheny West, Pittsburgh a bu farw yn Neuilly-sur-Seine, Ffrainc o ganser y stumog; fe'i claddwyd ym Mynwent Père Lachaise, Paris. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Goleg Radcliffe, Ysgol Feddygaeth Johns Hopkins, Prifysgol Harvard a Phrifysgol Johns Hopkins. [9][10]
Wedi'i geni yng nghymdogaeth Allegheny West yn Pittsburgh fe'i magwyd yn Oakland, Califfornia, cyn symud i Baris ym 1903. Yno, yn Ffrainc y treuliodd weddill ei bywyd. Pan oedd Stein yn 14 oed, bu farw ei mam a thair blynedd yn ddiweddarach, bu farw ei thad hefyd. Yna cymerodd brawd hynaf Stein, Michael Stein, drosodd y busnes teuluol ac ym 1892 trefnodd i Gertrude a chwaer arall, Bertha, fyw gyda theulu eu mam yn Baltimore.
Cynhaliodd salon ym Mharis, lle byddai ffigyrau blaenllaw moderniaeth mewn llenyddiaeth a chelf, pobl megis Pablo Picasso, Ernest Hemingway, F. Scott Fitzgerald, Sinclair Lewis, Ezra Pound, Sherwood Anderson a Henri Matisse, yn cwrdd.
Ym 1933, cyhoeddodd Stein led-gofiant o'i blynyddoedd ym Mharis, The Autobiography of Alice B. Toklas, a ysgrifennwyd yn llais Alice B. Toklas, ei phartner oes. Daeth y llyfr yn werthwr-gorau gan ddyrchafu Stein i amlygrwydd mawr o fewn y prif ffrwd.[11]
Mae dau ddyfyniad o'i gweithiau wedi dod yn adnabyddus iawn: "Rhosyn yw rhosyn yw rhosyn yw rhosyn," ac "nid oes yno yno", gyda'r olaf yn aml yn cael ei ystyried yn gyfeiriad at gartref ei phlentyndod yn Oakland.[12]
yn ystod yr Ail Ryfel Byd, er ei bod yn Iddew, caniataodd y Natsiaid iddi barhau i fyw a gweithio fel casglwr celf; fe'i beirniadwyd yn hallt am hyn, gan mai'r unig reswm y caniataodd yr awdurdodau Natsiaidd iddi fyw a gweithio, fel hyn, oedd pe bai'n cydweithio gyda nhw mewn dulliau dichellgar. dywedir iddi wneud hyn drwy Bernard Faÿ. Ar diwedd y rhyfel, canmolodd Natsi arall, sef arweinydd y Vichy, Marshal Pétain, un arall a oedd yn cydweithio gyda'r Natsiaid.[13][14]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.