Mae ffiseg (o'r Groeg φυσικός, "naturiol", a φύσις, "natur") neu anianeg (term hynafol am "ddeddfau neu drefn natur") yn gainc o'r astudiaeth wyddonol o fyd natur er mwyn deall sut mae'r bydysawd yn gweithio. Astudiaeth o fater ydyw ynghyd â chysyniadau perthnasol eraill e.e. ynni a grym a'i amcan yw canfod y deddfau sylfaenol sy'n llywodraethu mater, ynni, gofod ac amser.[1][2]
Enghraifft o'r canlynol | cangen o wyddoniaeth, disgyblaeth academaidd, union wyddoniaeth |
---|---|
Math | gwyddoniaeth naturiol |
Rhan o | gwyddoniaeth ffisegol |
Yn cynnwys | astroffiseg, ffiseg arbrofol |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ffiseg | ||||||||||
Dewislen Ffiseg | ||||||||||
Hanes Ffiseg
| ||||||||||
Mae ffiseg yn:
- disgrifio cyfansoddiad elfennol y bydysawd;
- disgrifio'r rhyngweithiadau rhwng elfennau'r bydysawd;
- dadansoddi systemau drwy ddefnyddio egwyddorion sylfaenol.
Gwneir defnydd helaeth o gydberthnasau mathemategol i ddisgrifio deddfau ffiseg.
Mae ffisegwyr yn cymryd yn ganiataol bodolaeth mas, hyd, amser, cerrynt trydanol a thymheredd ac oddi wrth y rhain yn gallu diffinio pob maint ffiseg arall.
Hanes ffiseg
- Prif: Hanes ffiseg
Ffiseg yw'r wyddoniaeth o mater, ymddygiad y mater a mudiant. Dyma un o'r disgyblaethau gwyddonol hynaf. Yr hen Roegwr Aristotlys a gyfansoddodd y gwaith ysgrifenedig cyntaf am ffiseg.
Yng Nghymru, sefydlwyd cadair ffiseg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 1877, Caerdydd yn 1883 a Bangor yn 1884.
Nod a chwmpas
Mae ffiseg yn cwmpasu ffenomenau eang, o'r gronynnau is-atomig bychan, i'r galaethau anferthol. Mae'r gwrthrychau mwyaf syml yn cael eu cynnwys mewn ffiseg ac felly dywedir fod ffiseg yn "wyddoniaeth sylfaenol". Mae ffiseg yn ceisio disgrifio ffenomena amrywiol sy'n digwydd mewn natur mewn termau syml. Felly, mae ffiseg yn bwriadu cysylltu'r pethau pob dydd yr ydym yn eu gweld o’n cwmpas i darddiad yr achos yn y gobaith o ffeindio'r rheswm eithafol ar gyfer ein bodolaeth. Er enghraifft, roedd y Tsieineaid hynafol wedi arsylwi bod yna rymoedd anweledig rhwng mathau gwahanol o greigiau. Adnabyddir yr effaith yma erbyn hyn fel magneteg neu magnetedd. Yn gynharach darganfu'r Groegwyr hynafol drydan wrth rwbio gwefr efo ffwr. Roedd datblygiadau technoleg yn yr 19g wedi dangos cysylltiad rhwng y ddwy theori. Gelwir hyn yn electromagnetedd.
Canghennau ffiseg
Yn aml, cai meysydd eu trefnu fel a ganlyn.
|
Mae gan ffiseg berthynas agos â'r gwyddorau naturiol eraill, yn enwedig cemeg. Gelwir cemeg ar sawl maes yn ffiseg, yn enwedig mecaneg cwantwm, thermodynameg ac electromagnetedd. Er hynny, mae ffenomenau cemeg yn ddigon amrywiol a chymhleth i drin cemeg fel disgyblaeth ar wahân. Sut bynnag, derbyniwyd yn gyffredinol gan gemegwyr a ffisegwyr taw deddfau ffiseg sy'n disgrifio camau sylfaenol pob rhyngweithiad cemegol.
- System Thermodynameg
- Cerrynt trydanol yw mellt.
- Isaac Newton
Rhai gwyddonwyr Ffiseg o Gymru
- Granville Beynon – prifysgolion Abertawe ac Aberystwyth; astudio'r ionosffer a'r magnetosffer.
- David Brunt – Cyfarwyddwr Swyddfa Dywydd Gwledydd Prydain, tad y rhagolygon tywydd modern.
- Donald Watts Davies – dyfeisydd y swits pecynnau, trosglwyddo data.
- E H Griffiths – Athro Ffiseg Prifysgol Caerdydd.
- Ezer Griffiths – cynhwysedd thermol metalau.
- David Edward Hughes – y cyntaf yn y byd i ddarlledu a derbyn signalau radio.
- Brian David Josephson (ganed 1940) – ffiseg lled-ddargludyddol. Enillydd Gwobr Nobel (1973).
- Frank Llewellyn Jones – Prifysgol Abertawe; ioneiddio.
- William Preece – cydweithiwr Marconi; prif beiriannydd y Swyddfa Bost.
- Graham Sutton – studio'r tywydd a chyfrifiadureg.
- John Viriamu Jones – Athro Ffiseg Prifysgol Caerdydd cyntaf.
- Evan James Williams – adfeiliad y mwon.
- Phil Williams – ffiseg yr haul a'r ddaear.
Cyfeiriadau
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.