cystadleuaeth rhwng adroddwyr, llefarwyr, llenorion, cantorion a cherddorion From Wikipedia, the free encyclopedia
Cystadleuaeth rhwng adroddwyr, llefarwyr, llenorion, cantorion a cherddorion yw'r Eisteddfod fodern yn bennaf. Cynhelir Eisteddfodau mawr a bach ledled Cymru a hefyd ym Mhatagonia. Y mwyaf yw'r Eisteddfod Genedlaethol, Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ac Eisteddfod Ryngwladol Llangollen. Mae'r Orsedd yn gysylltiedig â'r Eisteddfod yn arbennig yr Eisteddfod Genedlaethol sy'n ŵyl symudol.
Math | gŵyl ddrama, gŵyl gerddoriaeth, gŵyl lenyddol, gŵyl ddiwylliannol |
---|---|
Gwlad | Cymru |
Dechrau/Sefydlu | 1176 |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Creadigaeth gymharol fodern yw'r Eisteddfod Genedlaethol sy'n esiampl o sut mae gwladgarwch a'r dymuniad i ail-greu traddodiad yn cydorwedd yn daclus yn aml. Efelychiad ohoni yw gŵyl yr Urdd a sefydlwyd yn 1929 ac Eisteddfod Ryngwladol Llangollen a sefydlwyd yn 1947. Daeth Eisteddfod y Glowyr i ben yn 2001 (sefydlwyd 1948) wrth i'r diwydiant glo hefyd farw. Bu'r eisteddfod hefyd yn nodwedd bwysig ar ddiwylliant cymunedau o Gymry alltud yn Lloegr, Awstralia, Gogledd America, Patagonia, a De Affrica.
Y cofnod cyntaf sydd gennym am Eisteddfod yw hwnnw ym Mrut y Tywysogion am yr un a gynhaliwyd yng nghastell Yr Arglwydd Rhys (m. 1197) o Ddeheubarth ym 1176 yn Aberteifi (gweler Eisteddfod Aberteifi, 1176), er na ddefnyddiwyd y gair "eisteddfod" tan 1523. Cynhaliwyd yr ŵyl yno, a chafodd beirdd a cherddorion o ledled y wlad eu gwahodd. Rhoddwyd cadair wrth fwrdd yr Arglwydd i'r bardd a'r cerddor gorau, traddodiad sy'n parhau hyd heddiw yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Trefnodd Rhys ddwy gystadleuaeth, yn ôl y Brut: y naill ar gyfer beirdd a'r llall ar gyfer cerddorion.
Yr eisteddfodau nesaf hysbys yw Eisteddfod Caerfyrddin 1450/1 ac Eisteddfodau Caerwys (ym 1523 ac yn 1567). Roedd cystadlu yn elfen gref o'r dair Eisteddfod. Yng Nghaerfyrddin dyfarnwyd cadair arian i Dafydd ap Edmwnt am ddiwygio rheolau'r gynghanedd a'r mesurau caeth.
Sefydlodd Iolo Morganwg (sef enw barddol Edward Williams) "Orsedd Beirdd Ynys Prydain" ym 1792 er mwyn adfer yr eisteddfod hynafol. Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf yr adfywiad yn Primrose Hill, Llundain.
Ym mis Hydref, 1792, tra'n cyfeirio at adfywiad yr eisteddfod dywedodd "The Gentleman's Magazine":
“ | This being the day on which the autumnal equinox occurred, some Welsh bards resident in London assembled in congress on Primrose Hill, according to ancient usage. Present at the meeting was Edward Jones who had published his "The Musical and Poetical Reelicks of the Welsh Bards" in 1784 in a belated effort to try to preserve the native Welsh traditions being so ruthlessly stamped out by the new breed of Methodists. | ” |
Arweiniodd Brad y Llyfrau Gleision ym 1846 at anfodlonrwydd ymysg y Cymry a dechreuodd nifer gredu fod angen i'r Cymry greu delwedd genedlaethol newydd ar eu cyfer. Erbyn y 1950au, dechreuodd bobl drafod y syniad o gynnal eisteddfod cenedlaethol er mwyn arddangos diwylliant Cymry. Ym 1858, cynhaliodd John Williams ab Ithel Eisteddfod "Genedlaethol" cyflawn gyda Gorsedd yn Llangollen. Roedd "Eisteddfod fawr Llangollen 1858" yn ddigwyddiad arwyddocaol. Enillodd Thomas Stephens wobr gyda'i draethawd a oedd yn gwrthddweud honiad John Williams (trefnydd y digwyddiad) mai Madog a ddarganfyddodd yr Unol Daleithiau. Am fod Williams yn disgwyl i draethawd Stephens i gefnogi'r chwedl, nid oedd yn barod i wobrwyo Stephens a dywedir i'r sefyllfa fynd yn aflonydd. Yn yr eisteddfod hwn hefyd y gwelwyd ymddangosiad cyhoeddus cyntaf John Ceiriog Hughes a enillodd wobr am gerdd serch, Myfanwy Fychan of Dinas Brân, a fu'n boblogaidd o'r cychwyn cyntaf. Cred rhai fod hyn yn sgîl y modd y darluniwyd gwragedd Cymru fel gwragedd "deserving, beautiful, moral, well-mannered Welshwoman", a oedd yn gyferbyniad chwyrn i ddarlun Y Llyfrau Gleision o wragedd Cymru fel creaduriaid o foesau amheus.
Crëwyd Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol ar ôl Llangollen ac unwyd yr Orsedd ag ef. Mae gan yr Orsedd yr hawl i gyhoeddi a rheoli tra bod y Cyngor yn trefnu'r digwyddiad. Cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol gyntaf go iawn gan y Cyngor yn Ninbych ym 1860 gan seilio'r drefn sy'n parhau tan heddiw.
Ystyrir Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn brif eisteddfod y wlad, a dyma yw'r ŵyl farddonol a cherddorol cystadleuol fwyaf yn Ewrop. Cynhelir cystadlaethau a pherfformiadau am wyth niwrnod, i gyd trwy gyfrwng y Gymraeg, yn ystod wythnos gyntaf mis Awst. Amrywia lleoliad yr eisteddfod rhwng de a gogledd Cymru am yn ail flwyddyn. Yn 2006, cystadlodd dros 6000 o bobl a mynychwyd yr eisteddfod gan dros 150,000 o bobl.
Cynhaliwyd Eisteddfodau diweddar yn:
Eisteddfod bwysig arall a gynhelir yn flynyddol ydy 'Eisteddfod yr Urdd', sef Eisteddfod ar gyfer ieuenctid Cymru. Yn yr eisteddfod hwn, gwelir pobl ifanc rhwng 7 a 24 yn cystadlu mewn ystod o gystadlaethau canu, llefaru, dawnsio, actio ac offerynnol yn ystod hanner tymor y Sulgwyn. Dywedir mai'r ŵyl hon ydy gŵyl gelfyddydol ar gyfer ieuenctid fwyaf Ewrop.[1] Cynhelir rowndiau lleol a rhanbarthol ymlaen llaw, ac fel gyda'r Eisteddfod Genedlaethol, amrywia lleoliad Eisteddfod yr Urdd yn flynyddol. Oherwydd sefydlodd yr Urdd bencadlys i'w hunain yng Nghanolfan y Mileniwm ym Mae Caerdydd, bydd yr eisteddfod yn dychwelyd i Gaerdydd bob pedair blynedd.
Cynhaliwyd Eisteddfodau diweddar yr Urdd yn:
Blwyddyn | Dinas |
---|---|
2003 | Parc Margam |
2004 | |
2005 | Caerdydd |
2006 | Rhuthun |
2007 | Caerfyrddin |
2008 | Llandudno |
2009 | Caerdydd |
2010 | Llanerchaeron Aberaeron |
2011 | Abertawe |
2012 | Eryri |
2013 | Cilwendeg Boncath Sir Benfro |
2014 | Meirionnydd |
2015 | Caerffili |
Cynhelir Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn Llangollen yn yr haf am wythnos bob blwyddyn, gan ddechrau fel rheol ar ddydd Mawrth a gorffen ar y Sul.
Mae Eisteddfod Pantyfedwen yn eisteddfod dridiau a gynhelir ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid dros benwythnos Gŵyl Calan Mai. Sefydlwyd yr eisteddfod gan y gŵr busnes Syr David J. James a wnaeth ei arian yn Llundain tua 1887 lle roedd y teulu'n cynnal busnes llaeth yn ardal Westminster ac wedi hynny cadwyn o sinemâu gan gynnwys y 'super cinema' cyntaf yn Llundain (y Palladium yn ardal Palmers Green) gydag eisteddleoedd i fwy na 2,000 o bobl.
Ymhlith yr eisteddfodau rhanbarthol mwyaf y mae: Eisteddfod Powys, Eisteddfod Aberteifi[2] ac Eisteddfod Môn.
Ceir peth wmbredd o eisteddfodau lleol mewn trefi a phentrefi ledled Cymru gan gynnwys: Eisteddfod Llandudoch, Eisteddfod Gadeiriol yr Hendy, Eisteddfod Llanddeiliolen ac Eisteddfod Bro Aled.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.