actwr Cymreig From Wikipedia, the free encyclopedia
Actor Cymreig yw Dyfan Dwyfor, sy'n dod o Gricieth yn wreiddiol. Mynychodd Ysgol Eifionydd, Porthmadog a Choleg Meirion Dwyfor cyn mynd ymlaen i Ysgol Glanaethwy.[1] Graddiodd o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn 2007.
Dechreuodd actio yng nghyfres Rownd a Rownd. Ymysg ei ymddangosiadau cynharaf ar y teledu, chwaraeodd Dwyfor ran yn nrama Oed yr Addewid, enillodd y ddrama dair gwobr BAFTA Cymru a FIPA Aur.
Enillodd Wobr Richard Burton yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn 2004.[2]
Ymddangosodd Dwyfor fel gweinydd Paradise yn I Know You Know, yn serenu Robert Carlyle.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.