Dmitri Shostakovich

cyfansoddwr (1906-1975) From Wikipedia, the free encyclopedia

Dmitri Shostakovich
Remove ads

Cyfansoddwr a phianydd o Rwsia oedd Dmitri Dmitriyevich Shostakovich (Rwseg: Ynghylch y sain ymaДми́трий Дми́триевич Шостако́вич , tr. Dmitriy Dmitrievich Shostakovich; (25 Medi, 1906  9 Awst, 1975); roedd hefyd yn ŵr adnabyddus a dylanwadol ym myd cerddoriaeth ei oes.[1] Cafodd ei eni yn St Petersburg. Daeth yn enwog ar raddfa rhyngwladol ar ôl perfformiad cyntaf ei Symffoni Cyntaf yn 1926, a thrwy gydol ei yrfa, cafodd ei adnabod fel un o gyfansoddwyr mwyaf blaenllaw yr ugeinfed ganrif.

Ffeithiau sydyn Llais, Ganwyd ...

Enillodd Shostakovich enwogrwydd cynnar yn yr Undeb Sofietaidd, ond cafodd berthynas cymhleth gyda'r llywodraeth, a wnaeth ei glodfori gyda gwobrau a breintiau. Fe wnaeth ei opera Ledi Macbeth o Mtsensk (1934) gael ei gondemnio gan y llywodraeth mewn darn beriniadol ag oedd yn beryg i'w yrfa. Yn 1948 cafodd ei waith ddwrdio o dan Athrawiaeth Zhdanov, gyda sgil effeithiau proffesiynol a wnaeth barhau am flynyddoedd. Ar ôl i'w sensoriaeth gael ei ddiddymu yn 1956, roedd perffomiadau ei gerddoriaeth yn cael ei glywed yn ofalus gan y wladwriaeth a gallai ymrru yn ei waith, fel a wnaethant yn ei Symffoni Rhif 13 (1962). Roedd Shostakovich yn aelod o'r Prif Sofiet p'r RSFSR (19947) a'r Prif Sofiet o'r Undeb Sofietaidd (o 1962 tan ei farwolaeth), yn ogystal â bod yn gadeirydd i'r Undeb Cyfansoddwyr RSFSR (1960-1968).

Derbyniodd glod gan yr Undeb Sofietaidd a nawdd gan un o brif arweinwyr y fyddin, Mikhail Tukhachevsky, ond ymhen hir a hwyr cymhlethodd ei berthynas gyda'r fyddin a'r llywodraeth. Er gwaetha hyn parhaodd i dderbyn llawer o wobrwyon a gwasanaethodd yn yr "Uwch Sofiet Ffederasiwn Rwsia" (neu'r SFSR; Rwsieg: Верховный Совет РСФСР Верховный Совет Российской Федерации) ac "Uwch Sofiet yr Undeb Sofietaidd" o 1962 hyd at ei farwolaeth yn 1962.

Fe wnaeth Shostakovich cyfuno ystod eang o arddullion a thechnegau cerddorol yn ei waith. Maent wedi eu cymeriadu gan wrthgyfernnu llym, elfennau o'r grotesg, a chyweiredd amwys; cafodd ei ddylanwadu gan gerddoriaeth neoglasurol a rhamantiaeth hwyr Gustav Mahler. Mae ei darnau cerddorfaol yn cynnwys 15 symffoni a 6 concerti (dau yr un ar gyfer piano, ffidl a soddgrwth). Mae ei cerddoriaeth siambr yn cynnwys 15 pedwarawd llinynnol, pumawd piano, a dau driawd piano. Mae ei waith ar gyfer unawd piano yn cynnwys dau sonata, casgliad 24 prelude, a chasgliad 24 prelude a ffiwg. Mae ei waith ar lwyfan yn cynnwys tair opera a thair bale. Cyfansoddodd Shostakovich nifer o gylchoedd cân, a llawer o gerddoriaeth ar gyfer theatr a ffilm.

Mae enw da Shostakovich wedi parhau ar ôl ei farwolaeth. Mae diddordeb academaidd ynddo wedi cynyddu ers yr ugeinfed ganrif hwyr, gan gynnwys dadl ynglŷn â'r perthynaas rhwng ei gerddoriaeth a'i agwedd i'r llywodraeth Gomiwnyddol Sofietaidd.

Cafodd wersi piano gan ei fam yn 9 oed ac yn ddiweddarach yn Ysgol Gerddoriaeth Glasser o 1916-18. Aeth i Gonserfatoire Petrograd yn 1919 wedi'r Chwyldro Rwseg, ar ôl annogaeth a chymorth Glazunov.[2] Astudiodd piano gyda Nikolayev a chafnsoddi gyda Steinberg. Cafodd 'sylw anrhydeddus' yng nghystadleuaeth ryngwladol Chopin yn Warsaw yn 1927.

Remove ads

Ei gerddoriaeth

Yn fras, gellir dweud fod ei arddull yn ymgorffori nifer o wahanol leisiau a thechnegau amrywiol. Mae ei gerddoriaeth yn llawn cyferbyniadau amlwg, elfenau o arddull grotesg a thonyddiaeth amrywiol. Dylanwadwyd arno gan yr arddull neo-glasurol a ddefnyddiwyd gan Igor Stravinsky a hefyd gan ôl-Ramantiaeth - y math a gysylltir gyda Gustav Mahler.

Mae ei weithiau cerddorfaol yn cynnwys 15 symffoni a 6 concerti. Mae ei weithiau siambr yn cynnwys 15 pedwarawd llinynnol, pumawd piano, 2 driawd piano a 2 ddarn ar gyfer wythawd llinynnol. Mae ei weithiau piano'n cynnwys dau sonata i unigolyn, casgliad o breliwdau a chasgliad diweddarach o 24 preliwd a ffiwgiau. Ceir hefyd tair opera, cylchoedd o ganeuon, balletau a chryn lawer o gerddoriaeth ffilm e.e. Yr Echelon Cyntaf (Rwsieg: Первый эшелон; 1955–1956), neu'r casgliad y sgwennwyd ar gyfer The Gadfly.[3][4]

Remove ads

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads