Y Democratiaid Rhyddfrydol (DU)
plaid yng ngwledydd Prydain From Wikipedia, the free encyclopedia
plaid yng ngwledydd Prydain From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn blaid wleidyddol ryddfrydol, gymdeithasol sy'n gweithredu yn y Deyrnas Unedig ac a elwir ar lafar yn Lib Dems. Hyd at 2015, hi oedd y drydedd blaid fwyaf o'r pleidiau gwleidyddol yn y Deyrnas Unedig.[4][5][6]
Y Democratiaid Rhyddfrydol Liberal Democrats | |
---|---|
Arweinydd | Ed Davey |
Dirprwy Arweinydd | Daisy Cooper |
Llywydd | Mark Pack |
Sefydlwyd | 3 Mawrth 1988[1] |
Unwyd gyda | Plaid Ryddfrydol (DU) Democratiaid Cymdeithasol |
Pencadlys | 8–10 Great George Street, Llundain, SW1P 3AE [2] |
Asgell yr ifanc | Liberal Youth |
Aelodaeth (2023) | 90,000+[3] |
Rhestr o idiolegau | Rhyddfrydiaeth Rhyddfrydiaeth gymdeithasol |
Sbectrwm gwleidyddol | Canol |
Partner rhyngwladol | Liberal International |
Lliw | Melyn |
Tŷ'r Cyffredin | 72 / 650 |
Tŷ'r Arglwyddi | 79 / 790 |
Cynulliad Llundain | 2 / 25 |
Llywodraeth leol | 3,085 / 18,646 |
Senedd yr Alban | 4 / 129 |
Senedd Cymru | 1 / 60 |
Gwefan | |
libdems.org.uk |
Ffurfiwyd y Democratiaid Rhyddfrydol yn 1988 pan unwyd y Blaid Ryddfrydol a Plaid y Democratiaid Cymdeithasol (Social Democratic Party neu'r "SDP"). Cyn hynny am saith mlynedd, roedd y ddwy blaid wedi ffurfio'r 'Cynghrair yr SDP-Rhyddfrydwyr'. Hyd at 1988, bu'r Blaid Ryddfrydol mewn bodolaeth am 129 mlynedd, gydag arweinwyr cryf a Chymreig megis Gladstone a Lloyd George. Rhoddwyd cryn bwyslais ar ddiwygiadau rhyddfrydol er lles y gymdeithas, ac arweiniodd hyn at sefydlu'r Wladwriaeth les yng ngwledydd Prydain a Gogledd Iwerddon. Yn 1920, fodd bynnag, goddiweddwyd y Rhyddfrydwyr gan y Blaid Lafur, fel y prif fygythiad i'r Blaid Geidwadol. Gwahanwyd y Rhyddfrydwyr a'r Llafurwyr ymhellach yn 1981 oherwydd i'r Blaid Lafur droi fwyfwy i'r asgell chwith.[7][8]
Etholwyd Nick Clegg yn Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn 2007 ac yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2010, cipiwyd 57 o'r seddi ganddynt, a nhw felly oedd y drydedd blaid fwyaf o ran nifer yr Aelodau Seneddol. Roedd gan y Ceidwadwyr 307 a Llafur 258 AS, a gan nad oedd gan yr un blaid y mwyafrif clir, ymunodd y Democratiaid Rhyddfrydol gyda'r Ceidwadwyr i ffurfio cynghrair a phenodwyd Clegg yn Ddirprwy Brif Weinidog y DU.[9] Yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015, lleihawyd nifer ei haelodau Seneddol i 8 ac ymddiswyddodd Clegg fel Arweinydd ei blaid.[10]
Ffurfiwyd y Democratiaid Rhyddfrydol ar 3 Mawrth 1988 pan unwyd y Blaid Ryddfrydol gyda'r Democratiaid Cymdeithasol, ond daeth i gytundeb gyda'i gilydd saith mlynedd ynghynt pan ffurfiwyd y 'Cynghrair yr SDP-Rhyddfrydwyr' (SDP–Liberal Alliance).[1] Tarddiad y Blaid Ryddfrydol oedd y Chwigiaid, y Radicaliaid a'r Peelites (yn 1859). Roedd yr SDP cryn dipyn yn iau - fe'i crewyd yn 1982 gan gyn-aelodau seneddol y Blaid Lafur, gydag ambell Geidwadwr a newidiodd ei liw.[11]
Sylweddolodd yr SDP a'r Rhyddfrydwyr - yn gam neu'n gymwys - nad oedd lle i bedair plaid yng ngwleidyddiaeth gwledydd Prydain, a daethpwyd i gytundeb (neu 'Gynghrair') na fyddent yn sefyll yn erbyn ei gilydd mewn etholiad. Arweinyddion y Gynghrair oedd David Steel o'r Rhyddfrydwyr a Roy Jenkins ar ran yr SDP; cyn hir, daeth David Owen i gymryd lle Jenkins.[11] Roedd gan y ddwy blaid eu polisiau eu hunain, ond cyflwynwyd un maniffesto ar gyfer Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1987.
Etholiad cyffredinol |
Enw | Arweinydd | Cyfran o'r bleidlais |
Seddi | Cyfran o'r seddi |
Ffynhonnell |
1983 | Cynghrair yr SDP-Rhyddfrydwyr | David Steel | 25.4% | 23 / 650 |
3.5% | [12] |
1987 | Cynghrair yr SDP-Rhyddfrydwyr | 22.6% | 22 / 650 |
3.4% | [12] | |
1992 | Democratiaid Rhyddfrydol | Paddy Ashdown | 17.8% | 20 / 651 |
3% | [13] |
1997 | Democratiaid Rhyddfrydol | 16.8% | 46 / 659 |
7% | [13] | |
2001 | Democratiaid Rhyddfrydol | Charles Kennedy | 18.3% | 52 / 659 |
8% | [14] |
2005 | Democratiaid Rhyddfrydol | 22.0% | 62 / 646 |
10% | [15] | |
2010 | Democratiaid Rhyddfrydol | Nick Clegg | 23.0% | 57 / 650 |
9% | [16] |
2015 | Democratiaid Rhyddfrydol | 7.9% | 8 / 650 |
1.2% | [17] | |
2017 | Democratiaid Rhyddfrydol | Tim Farron | 7.4% | 12 / 650 |
1.8% | [18] |
2019 | Democratiaid Rhyddfrydol | Jo Swinson | 11.6% | 11 / 650 |
1.7% | [19] |
2024 | Democratiaid Rhyddfrydol | Ed Davey | 12.2% | 72 / 650 |
11.1% | [20] |
Democratiaid Rhyddfrydol Cymru - y Blaid yng Nghymru.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.