Gwleidydd Seisnig, Aelod Seneddol dros etholaeth Westmorland a Lonsdale ac arweinydd Y Democratiaid Rhyddfrydol yn y Tŷ'r Cyffredin rhwng 2015 a 2017 yw Timothy James 'Tim' Farron (ganwyd 27 Mai 1970).[1] Bu'n Llywydd y Democratiaid Rhyddfrydol rhwng 2011 a 2014.[2][3] Ymddiswyddodd Farron fel arweinydd y blaid ar 14 Mehefin 2017.[4]

Ffeithiau sydyn Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Dirprwy ...
Tim Farron
Thumb
Farron yn 2014
Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol
Deiliad
Cychwyn y swydd
16 Gorffennaf 2015
DirprwyTBC
Rhagflaenwyd ganNick Clegg
Llywydd y Democratiaid Rhyddfrydol
Yn ei swydd
1 Ionawr 2011  31 December 2014
ArweinyddNick Clegg
Rhagflaenwyd ganY Farwnes Rosalind Scott
Dilynwyd ganY Farwnes Sarah Brinton
Aelod o seddi blaen y Democratiaid Rhyddfrydol
Llefarydd y Dem. Rh. dros yr Amgylchedd
Yn ei swydd
18 Rhagfyr 2007  13 Mai 2010
ArweinyddNick Clegg
Rhagflaenwyd ganChris Huhne
Dilynwyd ganDiddymwyd
AS dros Westmorland a Lonsdale
Deiliad
Cychwyn y swydd
5 Mai 2005
Rhagflaenwyd ganTim Collins
Mwyafrif8,949 (18.3%)
Manylion personol
GanwydTimothy James Farron
(1970-05-27) 27 Mai 1970 (54 oed)
Preston, Swydd Gaerhirfryn, Lloegr
CenedligrwyddPrydeiniwr
Plaid wleidyddolDemocratiaid Rhyddfrydol
PriodRosie Farron
Plant2 ferch
2 fab
Alma materPrifysgol Newcastle
SwyddGwleidydd
GalwedigaethAthro
Cau

Y dyddiau cynnar

Ganwyd Farron ym Mhreston, a derbyniodd ei addysg yn Ysgol Lostock Hall a Choleg Runshaw, Leyland, Lloegr; ymunodd gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol pan oedd yn 16 oed. Cafodd ei dderbyn fel myfyriwr ym Mhrifysgol Newcastle lle derbyniodd radd BA mewn gwleidyddiaeth yn 1992. Bu'n Llywydd Undeb y Myfyrwyr yno - yr aelod cyntaf o'r Democratiaid Rhyddfrydol i ddal y swydd ac etholwyd ef i'r pwyllgor cenedlaethol yn 1990.[5]

Gweithiodd ym Mhrifysgol Swydd Gaerhirfryn rhwng 1992–2002 a St. Martin's College, Ambleside, rhwng 2002-5.

Gyrfa wleidyddol

Ymladdodd etholaeth North West Durhamyn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1992 gan ddod yn drydydd - 20,006 o bleidleisiau y tu ôl i Hilary Armstrong AS dros y Blaid Lafur.

Etholwyd ef yn gynghorydd sir ar Gyngor Swydd Gaerhirfryn rhwng 1993 a 2000.

Bu'n aflwyddiannus yn Etholiad Senedd ewrop yn 1999 ond yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2005 enillodd gyda mwyafrif ysig o 267 pleidlais.[6]

Cafodd ysbaid yn ysgrifennydd personol i Menzies Campbell ac yn 2007 fe'i penodwyd yn Llefarydd Materion Mewnol y Democratiaid Rhyddfrydol.

Cyfeiriadau

Wikiwand in your browser!

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.

Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.