From Wikipedia, the free encyclopedia
Ymosodiad terfysgol yn erbyn Mwslimiaid oedd cyflafan Christchurch a darodd dau fosg yn ninas Christchurch, Seland Newydd, ar 15 Mawrth 2019. Saethwyd 50 o bobl yn farw gan ddyn arfog oedd yn arddel goruchafiaeth y gwynion ac ideoleg wrth-Islamaidd.[1][2]
Enghraifft o'r canlynol | ymosodiad terfysgol, llofruddiaeth torfol, livestreamed crime |
---|---|
Dyddiad | 15 Mawrth 2019 |
Lladdwyd | 51 |
Lleoliad | Christchurch, Canterbury Region, Al Noor Mosque, Linwood Islamic Centre |
Gwladwriaeth | Seland Newydd |
Rhanbarth | Christchurch City |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Bu farw 42 o addolwyr ym Mosg Al Noor a'r ardal o'i amgylch ym maestref Riccarton yn ystod gweddi'r Gwener. Defnyddiodd yr ymosodwr ddrylliau lled-awtomatig, ac roedd ganddo sawl arf arall yn ei gar. Dechreuodd yr ymosodiad tua 13:40 (Amser Haf Seland Newydd) a barodd tua chwe munud cyn i'r llofrudd yrru i Ganolfan Islamaidd Linwood, rhyw 5 km i ffwrdd, a saethwyd 7 yn farw yn y mosg hwnnw.[3] Cafodd yr ymosodwr ei wrthsefyll gan Abdul Aziz, a lwyddodd i hel y dyn ymaith a chipio'i wn haels.[4] Ym Mosg Al Noor, ceisiodd Naeem Rashid daclo'r ymosodwr, ond cafodd ei saethu a bu farw ef yn ddiweddarach yn yr ysbyty.[5]
Cyhuddir dinesydd Awstralaidd 28 oed o'r enw Brenton Tarrant o gyflawni'r troseddau.[6] Cafodd yr ymosodiad ym Mosg Al Noor ei ffrydio'n fyw drwy gyfrwng Facebook Live gan ddefnyddio camera ar ben yr ymosodwr, a chyhoeddwyd maniffesto ar-lein a briodolir iddo.[7]
Yn ôl Cymraes oedd yn y ddinas, Elliw Alaw Watts, roedd y gyflafan yn "erchyll" . Ategodd ""Mae jest yn ofnadwy meddwl bo rhwbath felly 'di digwydd mewn dinas ddistaw fel hyn."[1]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.