Remove ads
y wefan Gymraeg gyntaf, a lansiwyd 13 Ebrill 1995 gan Dafydd Tomos From Wikipedia, the free encyclopedia
Y wefan Gymraeg gyntaf oedd Curiad, gwefan a oedd (ac sy'n parhau) i ymwneud â cherddoriaeth boblogaidd. Lansiwyd y wefan gan Dafydd Tomos ar 11 Ebrill 1995[1] a chyhoeddwyd hynny ar y rhestr ebyst WELSH-L ar 13 Ebrill 1995.
Enghraifft o'r canlynol | gwefan |
---|---|
Iaith | Cymraeg |
Dechrau/Sefydlu | 11 Ebrill 1995 |
Sylfaenydd | Dafydd Tomos |
Gwefan | http://curiad.org |
Mae gwefan Curiad yn cynnwys gwybodaeth am gigs, bandiau, adolygiadau a'r siartiau Cymraeg. Roedd y wefan yn gwbl ddwyieithog i ddechrau cyn ail-lansio'n uniaith Gymraeg erbyn 2005. Mae rhan helaeth o'r deunydd ar gael hyd heddiw wedi'i archifo.[2][3]
Ymddangosodd y wefan ar deledu am y tro cyntaf mewn eitem ar Uned 5 ar 20 Mehefin 1995.[4]
Wrth lansio'r wefan, dywedodd Dafydd Tomos:
Dyfeisiwyd y we fydeang gan Tim Berners-Lee a Robert Cailliau pan roeddent yn gweithio yn CERN yng Ngenefa, Y Swistir a Ffrainc yn 1989.
Roedd dau grŵp trafod wedi'u ffurfio ychydig cyn 1995: WELSH-L (Tachwedd 1992) ac yna grŵp Usenet soc.culture.welsh (21 Mawrth 1995). Lansiwyd Cwrs Cymraeg Mark Nodine ym Mehefin 1994, ond ychydig iawn o Gymraeg oedd arni. Cafwyd hefyd nifer o ddalenau unigol. Cyn datblygiad gwasanaethau masnachol i letya gwefannau, roedd y rhan fwyaf o wefannau yn cael eu cynnal ar gyfrifon myfyrwyr a staff adrannau cyfrifiadureg y prifysgolion.
Fe wnaeth nifer o 'dudalennau cartref' ymddangos - rhai yn ddim mwy na manylion cysylltu. Fe fyddai eraill yn tyfu i wefannau llawn yn hwyrach ymlaen. Fel arfer, roedd America ar y blaen ac roedd rhai ISPs masnachol yn cynnwys gofod ar y we fel rhan o'i gwasanaeth.
Dyma ddetholiad o rai unigolion oedd yn berchen ar dudalennau cartref Cymraeg yn 1994 a 1995: Illtud Daniel, Rhydychen, Geraint Jones, UCL, Rob Griffiths, Prifysgol Manceinion, Geraint Jones, Rhydychen, Geraint Edwards, Prifysgol Sheffield, Tristan Williams, Prifysgol Aberystwyth, Lynne Davies, LSHTM Llundain.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.