Gwefan Gymraeg ar ffurf cyfeiriadur o wefannau a phobol oedd Gwe-Awê; ei bwrpas oedd hyrwyddo cymuned Gymreig ar y we. Y gwefeistr oedd Alun Rhys Jones a oedd ar y pryd yn fyfyriwr ymchwil mewn Bywyd Artifisial (ALife) yn Adran Gyfrifiadureg Prifysgol Manceinion. Roedd y wefan yn cynnwys cylchgrawn gwyddoniaeth newydd o'r enw "DELTA" ac yn caniatau i ddefnyddwyr greu 'dalen cartref' neu 'Hafan' eu hunain a hynny am ddim.
Cyhoeddodd Alun Rhys Jones fodolaeth y wefan Gwe-Awê ar restr drafod WELSH-L ar 2 Mai 1995, fis wedi lansio'r wefan Gymraeg gyntaf, Curiad.[1]
Alun Rhys Jones
Wedi graddio, dychwelodd i Gymru gan ddechrau cwmni 'Technoleg Gwe' yn 1996, gyda'i swyddfa ym Mharc Menai, Bangor. Cofrestrodd y parth 'wales.com' yn 1995 ynghyd â fersiynau org/net - gwerthwyd rhain yn ddiweddarach.[2] Roedd y cwmni yn datblygu gwefannau a gwasanaethau ar lein. Aeth Rhys ymlaen i sefydlu gwasanaeth taliadau ar lein SecureTrading, sydd a'i bencadlys yn dal ym Mangor. Wedi gwerthu y cwmni, aeth ymlaen i sefydlu nifer o gwmniau eraill yn cynnwys Sanoodi (gwefan ar gyfer mapio gweithgareddau yr awyr agored), Accountis (gwasanaeth ar gyfer anfonebau electronig) a Bookry (gwasanaeth creu llyfrau rhyngweithiol iBooks).[3]
Gweler hefyd
- Usenet: grwpiau newyddion Cymreig ar Usenet
- Cwrs Cymraeg Mark Nodine: gwefan Saesneg
Cyfeiriadau
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.