Remove ads
bryn (258m) yng Ngwynedd From Wikipedia, the free encyclopedia
Bryn yn ne Gwynedd yw Craig yr Aderyn (neu Craig y Deryn ar lafar), sy'n codi o lefel y môr i uchder o dros 250 medr ar lethrau deheuol Dyffryn Dysynni, ger Llanfihangel-y-Pennant ym Meirionnydd. Caiff ei henw am ei bod yn fan nythu i nifer fawr o adar megis y Bilidowcar, er fod y graig, bellach, cryn dwy filltir o'r môr. Ceir nifer o dyllau ynddi sy'n cael eu defnyddio gan yr adar i ddodwy a magu cywion.
Craig yr Aderyn dan eira. | |
Math | bryn, caer lefal, copa |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 258 metr |
Cyfesurynnau | 52.6419°N 4.0055°W |
Cod OS | SH64400680 |
Manylion | |
Amlygrwydd | 87 metr |
Rhiant gopa | Gamallt |
Statws treftadaeth | Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, heneb gofrestredig |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | ME075 |
Mae Craig yr Aderyn, hefyd, yn fryngaer Geltaidd sy'n perthyn i Oes yr Haearn; cyfeirnod OS: SH644068.
Cofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: ME075.[1] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru.
Ceir olion caer fach o Oes yr Haearn ar gopa'r graig. Doedd dim angen llawer o waith amddiffyn am fod y safle ei hun mor gryf, ond codwyd clawdd o ffurf L rhwng y clogwynni syrth i greu amddiffynfa. Yn ddiweddarach, ychwanegwyd mur pur sylweddol ar yr ochr ddwyreiniol a gellir gweld olion y fynedfa, sy'n troi i mewn ar ei hun.[2]
Mae adfeilion Castell y Bere, a godwyd gan dywysogion Gwynedd yn y 13g, gerllaw. Yn ôl traddodiad lleol, roedd dau dŵr i wylwyr y castell ar ben y graig a byddai'r gwylwyr yn codi baner goch yn rhybudd i'r castellwyr pe bai perygl. Gelwir dau wyneb amlwg y graig yn 'Y Palis Mawr' ac 'Y Palis Bach' yn lleol.[3]
Cyfeirir at y graig yn yr hen gân werin 'Wrth Fynd Efo Deio i Dywyn':
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.