seneddwr a hanesydd Rhufeinig (http://www.wikidata.org/.well-120) From Wikipedia, the free encyclopedia
Hanesydd Rhufeinig a llenor yn yr iaith Ladin oedd Gaius Cornelius Tacitus neu Publius Cornelius Tacitus neu yn Gymraeg Tegid[1] (c.56 - 117 O.C.). Credir iddo gael ei eni yn nhalaith Gallia Narbonensis (de Ffrainc heddiw), ond nid oes sicrwydd am hynny. Mae'n bosibl mai asiant imperialaidd yng ngogledd-ddwyrain Gâl a oedd yn gyfrifol am dalu llengwyr Rhufeinig byddin y Rhein oedd ei dad. Cafodd Tacitus ei eni tua 55 O.C., yn ystod teyrnasiad yr ymerodr Claudius. Bu marw tua diwedd teyrnasiad Trajan (98 - 117) neu'n fuan ar ôl hynny. Chwareai rhan bur bwysig ym mywyd cyhoeddus ei oes ond fe'i cofir yn bennaf am ei gyfraniad arbennig i lên hanes.
Tacitus | |
---|---|
Ganwyd | c. 54, Unknown Gallia Narbonensis |
Bu farw | c. 120 yr Ymerodraeth Rufeinig |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
Galwedigaeth | hanesydd, gwleidydd, person milwrol, bardd, athronydd, cofiannydd, croniclwr, cyfreithegwr, llenor |
Swydd | tribune of the plebs, llywodraethwr Rhufeinig, Praetor, Conswl Rhufeinig, seneddwr Rhufeinig |
Adnabyddus am | Annals, Histories, Germania, Cofiant Agricola, llywodraethwr Prydain, Dialogus de oratoribus |
Arddull | hanes |
Priod | Julia Agricola |
Mae pump o weithiau Tacitus wedi goroesi (tri yn gyfan, dau yn rhannol).
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.