From Wikipedia, the free encyclopedia
Trasiedi o ddrama lwyfan gan William Shakespeare yw Coriolanus, /kɒriəˈleɪnəs/ /-ˈlɑː-/ [1] y credir iddi gael ei chyfansoddi rhwng 1605 a 1608. Mae'r ddrama yn seiliedig ar fywyd yr arweinydd Rhufeinig chwedlonol Gnaeus Marcius Coriolanus. Gweithiodd Shakespeare ar y ddrama yn yr un cyfnod ag Antony a Cleopatra, sy'n eu croniclo fel ei ddwy drasiedi olaf.
Coriolanus yw'r enw a roddir i gadfridog Rhufeinig ar ôl ei gampau milwrol yn erbyn y Volsciaid yn Corioli. Yn dilyn ei lwyddiant mae'n ceisio bod yn gonswl, ond arweiniodd ei ddirmyg tuag at y plebeiaid a'i elyniaeth tuag at y llwythau, at ei alltudiaeth o Rufain. Tra'n alltud, mae'n cyflwyno ei hun i'r Volsciaid, yna'n eu harwain yn erbyn Rhufain. Ar ôl iddo ildio a chytuno i heddwch â Rhufain, caiff ei ladd gan ei gynghreiriaid Volsciaidd.
Mae'r ddrama'n cychwyn yn Rhufain yn fuan ar ôl diarddel brenhinoedd y Tarquin. Mae terfysgoedd ar y gweill ar ôl i storfeydd grawn gael eu hatal oddi wrth ddinasyddion cyffredin. Mae'r terfysgwyr yn ddig iawn wrth Caius Marcius, [2] cadfridog Rhufeinig gwych, gan ei feio am golli eu grawn. Mae'r terfysgwyr yn dod ar draws uchelwr o'r enw Menenius Agrippa, yn ogystal â Caius Marcius ei hun. Mae Menenius yn ceisio tawelu'r dyfroedd, tra bod Marcius yn gwbl ddirmygus, ac yn dweud nad yw'r plebeiaid yn deilwng o'r grawn oherwydd eu diffyg gwasanaeth milwrol. Mae dau o lwythau Rhufain, Brutus a Sicinius, yn argyhuddo Marcius yn ei gefn. Mae Marcius yn gadael Rhufain ar ôl iddo glywed bod byddin Volsciaidd yn y maes.
Mae pennaeth byddin Volsci, Tullus Aufidius, wedi ymladd yn erbyn Marcius ar sawl achlysur ac yn ei ystyried yn elyn gwaedlyd. Arweinir y fyddin Rufeinig gan Cominius, gyda Marcius yn ddirprwy iddo. Tra bod Cominius yn mynd â'i filwyr i gwrdd â byddin Aufidius, mae Marcius yn arwain ymgyrch yn erbyn y ddinas Volscianaidd, Corioli. Mae gwarchae Corioli yn aflwyddiannus i gychwyn, ond mae'r Rhufeiniaid yn ei orchfygu o ganlyniad i allu Marcius i agor pyrth y ddinas. Er ei fod wedi blino'n lân o'r ymladd, mae Marcius yn gorymdeithio'n gyflym i ymuno â Cominius ac yn ymladd yn erbyn lluoedd Volscaidd eraill. Mae Marcius ac Aufidius yn cyfarfod mewn brwydr unigol, gan ymladd nes bod milwyr Aufidius yn ei lusgo ymaith o'r frwydr.
I gydnabod ei ddewrder, mae Cominius yn urddo Caius Marcius â'r enw Coriolanus - "llysenw swyddogol" (yr agnomen). Pan ddychwelant i Rufain, mae Volumnia, mam Coriolanus, yn annog ei mab i geisio am gonswl. Mae Coriolanus yn betrusgar o wneud hyn, ond mae'n plygu i ddymuniadau ei fam. Mae'n ennill cefnogaeth y Senedd Rufeinig yn ddiymdrech ac ymddengys ar y dechrau, iddo ennill dros y plebeiaid hefyd. Fodd bynnag, mae Brutus a Sicinius yn bwriadu trechu Coriolanus a chychwyn terfysg plebeiaidd arall mewn gwrthwynebiad i'w ddyrchafiad yn gonswl. Yn wyneb y gwrthwynebiad hwn, mae Coriolanus yn cynddeiriogi yn erbyn y cysyniad o reolaeth boblogaidd . Mae'n cymharu caniatáu'r plebeiaid i fod uwchlaw'r uchelwyr fel caniatáu i "frain i bigo'r eryrod". Mae'r ddau lwyth yn condemnio Coriolanus fel bradwr am ei eiriau ac yn gorchymyn iddo gael ei alltudio. Mae Coriolanus yn eu gwrthbrofi drwy ddatgan mai ef sy'n alltudio Rhufain o'i bresenoldeb ef.
Wedi ei alltudiaeth o Rufain, mae Coriolanus yn teithio i brifddinas Volsciaidd Antium, ac yn gofyn am gymorth Aufidius i ddial ar Rufain am ei alltudio. Wedi'i gyffwrdd gan ei anffawd, a'r darpar anrhydedd o ymladd ochr yn ochr â'r cadfridog mawr, mae Aufidius a'i uwch-swyddogion yn cofleidio Coriolanus, gan ganiatáu iddo arwain ymosodiad newydd ar Rufain.
Yn ei phanig, mae Rhufain yn ceisio’n daer i berswadio Coriolanus i atal ei ddial, ond mae Cominius a Menenius yn methu. Mae ei fam Volumnia yn cael ei anfon i gwrdd â'i mab, ynghyd â gwraig Coriolanus Virgilia a'u plentyn, a'r bonheddig gybyddlyd Valeria. Mae Volumnia yn llwyddo i ddarbwyllo ei mab rhag dinistrio Rhufain, gan ei annog yn hytrach i adfer ei enw da drwy gymodi'r Volsciaid â'r Rhufeiniaid a chreu heddwch.
Mae Coriolanus yn sicrhau'r cytundeb heddwch rhwng y Volsciaid a'r Rhufeiniaid. Pan ddychwel i brifddinas Volsci, mae cynllwynwyr, a drefnwyd gan Aufidius, yn ei ladd am ei frad.
Volsciaid
Arall
I raddau helaeth, mae Coriolanus yn seiliedig ar "Life of Coriolanus" yng nghyfieithiad Thomas North o The Lives of the Noble Grecians and Romans (1579) gan Plutarch . Mae geiriad araith Menenius am y corff gwleidyddol yn deillio o Remaines of a Greater Worke Concerning Britaine (1605) gan William Camden, [3] [4] lle mae'r Pab Adrian IV yn cymharu llywodraeth sy'n cael ei redeg yn dda â chorff lle "cyflawnodd pob rhan eu swyddogaethau, a dim ond y stumog oedd yn segura ac yn bwyta pob dim"; cyfeirir at y chwedl hefyd yn Policraticus John of Salisbury (ffynhonnell Camden) ac A Marvailous Combat of Contrarieties (1588) gan William Averell.[5]
Awgrymwyd ffynonellau eraill, ond maent yn llai sicr. Dichon fod Shakespeare hefyd wedi'i ddylanwadu gan Ab Urbe condita gan Livy, fel y'i cyfieithwyd gan Philemon Holland, ac o bosibl grynodeb o Livy gan Lucius Annaeus Florus; roedd y ddau destun yma yn gyffredin mewn ysgolion Elisabethaidd. Roedd Discourses on Livy gan Machiavelli ar gael mewn llawysgrifau, a gallai Shakespeare fod wedi'u defnyddio hefyd. [6] Efallai ei fod hefyd wedi defnyddio ffynhonnell wreiddiol Plutarch, "Dionysius of Halicarnassus" , "Roman Antiquities of Dionysius of Halicarnassus",[7] yn ogystal â'i wybodaeth bersonol o arferion a chyfraith Rufeinig. [5]
Mae’r rhan fwyaf o ysgolheigion yn dyddio Coriolanus i’r cyfnod 1605–10, gyda 1608–09 yn cael ei hystyried fel y mwyaf tebygol, er nad yw’r dystiolaeth sydd ar gael yn caniatáu llawer o sicrwydd.
Mae'r dyddiad cynharaf yn ddibynol ar chwedl y bol gan Menenius sy'n tarddu o Remaines William Camden, a gyhoeddwyd yn 1605 . Mae'r dyddiad diweddarach yn deillio o'r ffaith bod nifer o destunau eraill o 1610 neu tua 1610 yn cyfeirio at Coriolanus, gan gynnwys Epicoene Ben Jonson, Phantasma Robert Armin a The Woman's Prize gan John Fletcher neu'r Tamer Tamed. [8]
Mae themâu'r ddrama o anniddigrwydd poblogaidd â'r llywodraeth wedi'u cysylltu gan ysgolheigion â'r Midland Revolt, cyfres o derfysgoedd gwerinol yn 1607 a fyddai wedi effeithio ar Shakespeare fel perchennog tir yn Stratford-upon-Avon; a'r dadleuon dros y siarter ar gyfer Dinas Llundain, y byddai Shakespeare wedi bod yn ymwybodol ohonynt, gan eu bod yn effeithio ar statws cyfreithiol yr ardal o amgylch Theatr Blackfriars.[9] Achoswyd y terfysgoedd yng nghanolbarth Lloegr gan newyn oherwydd cau tir comin.
Cyhoeddwyd y ddrama am y tro cyntaf yn Ffolio Cyntaf 1623. Mae elfennau o'r testun, megis y cyfarwyddiadau llwyfan anghyffredin o fanwl, yn peri i rai ysgolheigion Shakesperaidd gredu bod y testun wedi'i baratoi o lyfr ysgogi theatrig.
Disgrifiodd AC Bradley y ddrama hon fel un "wedi'i hadeiladu ar raddfa enfawr"[10] fel King Lear a Macbeth, ond mae'n wahanol i'r ddau gampwaith hynny mewn ffordd bwysig. Efallai mai’r rhyfelwr Coriolanus yw’r mwyaf anelwig o arwyr trasig Shakespeare, am y diffyg ymsonau neu ddatgelu’r cymhellion sy'n eu gosod uwchlaw'r gymdeithas Rufeinig.
Mewn datganiad enwog gan TS Eliot, cyhoeddoedd bod Coriolanus yn rhagori ar Hamlet yn The Sacred Wood, lle geilw Coriolanus ynghyd ag Antony a Cleopatra, yn gampau drasig fwyaf y Prifardd. Ysgrifennodd Eliot gerdd dwy-ran am Coriolanus, "Coriolan" (sillafiad amgen o Coriolanus); cyfeiriodd hefyd at Coriolanus mewn darn o The Waste Land pan ysgrifennodd, "Revive for a moment a broken Coriolanus." [11]
Fel rhai o ddramâu eraill Shakespeare (All's Well That Ends Well; Antony a Cleopatra; Timon of Athens), nid oes cofnod o lwyfannu Coriolanus cyn yr Adferiad. Ar ôl 1660, fodd bynnag, roedd ei themâu yn ei wneud yn ddewis naturiol ar gyfer cyfnodau o helbul gwleidyddol. Y perfformiad cyntaf y gwyddys amdano oedd addasiad gwaedlyd Nahum Tate yn Drury Lane yn 1682. Cafodd addasiad diweddarach, The Invader of His Country gan John Dennis, neu The Fatal Resentment, ei hel oddi ar y llwyfan ar ôl tri pherfformiad ym 1719. Dychwelodd David Garrick at destun Shakespeare mewn cynhyrchiad Drury Lane ym 1754. [12]
Portreadodd Laurence Olivier y prif gymeriad yn The Old Vic ym 1937 ac eto yn Theatr Goffa Shakespeare ym 1959. Yn y cynhyrchiad hwnnw, cyflwynodd olygfa marwolaeth Coriolanus trwy ddisgyn yn ôl o lwyfan uchel a hongian wyneb i waered heb gymorth gwifrau.
Ym 1971, dychwelodd y ddrama i'r Old Vic mewn cynhyrchiad gan y Theatr Genedlaethol a gyfarwyddwyd gan Manfred Wekwerth a Joachim Tenschert gyda chynllun llwyfan gan Karl von Appen . Chwaraeodd Anthony Hopkins ran Coriolanus, gyda Constance Cummings fel Volumnia ac Anna Carteret fel Virgilia.
Mae perfformiadau eraill o Coriolanus yn cynnwys Alan Howard, Paul Scofield, Ian McKellen, Ian Richardson, Toby Stephens, Robert Ryan, Christopher Walken, Morgan Freeman, Colm Feore, Ralph Fiennes a Tom Hiddleston.
Yn 2012, llwyfannodd National Theatre Wales ddarn cyfansawdd o Coriolanus Shakespeare gyda Coriolan Bertolt Brecht, o dan yr enw Coriolan/us, mewn awyrendy segur ym maes awyr Sain Tathan.[13] Wedi'i gyfarwyddo gan Mike Brookes a Mike Pearson, defnyddiodd y cynhyrchiad glustffonau disgo mud i ganiatáu i'r testun gael ei glywed tra bod y weithred ddramatig yn symud trwy'r gofod mawr. Cafodd y cynhyrchiad dderbyniad da gan y beirniaid. [14] [15]
Ym mis Rhagfyr 2013, agorodd Donmar Warehouse eu cynhyrchiad newydd. Fe’i cyfarwyddwyd gan Josie Rourke, gyda Tom Hiddleston yn serennu yn y brif ran, ynghyd â Mark Gatiss, Deborah Findlay, Hadley Fraser, a Birgitte Hjort Sørensen . [16] [17] Derbyniodd y cynhyrchiad adolygiadau cryf iawn. Ysgrifennodd Michael Billington yn The Guardian "Cynhyrchiad cyflym, ffraeth, deallus sydd, drwy Tom Hiddleston, yn cyfleu Coriolanus gwych." [18] Darlledwyd y ddrama mewn sinemâu yn y DU ac yn rhyngwladol ar 30 Ionawr 2014 fel rhan o raglen National Theatre Live . [19] [20]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.